Mae’r LTA, gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol, wedi rhyddhau’r bennod gyntaf o bedair yn eu cyfres ddogfen newydd, a gynhyrchwyd gan Whisper, sy’n dilyn y gyrrwr rasio proffesiynol a'r cyflwynydd Paralympaidd/F1, Billy Monger, wrth iddo ddysgu am fyd tennis cadair olwyn proffesiynol.
Ar ôl trin a thrafod heriau chwaraeon Paralympaidd yn y rhaglen 'Billy Monger: Changing Gear' a gynhyrchwyd gan Whisper yr haf diwethaf, ac ar ôl bod yn aelod o dîm cyflwyno C4 yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf a Gemau Paralympaidd 2021 a 2022, yma gwelwn Billy yn cychwyn ar ei daith ei hun ym myd tenis cadair olwyn, gyda’r nod o chwalu rhagor o rwystrau a chaniatáu i gynulleidfaoedd newydd ddysgu am y gamp.
Bydd pennod newydd o’r gyfres yn cael ei rhyddhau bob wythnos ar sianeli digidol yr LTA yn ystod mis Medi, gan ddilyn hynt Billy wrth iddo gael ei gyflwyno i fyd tennis cadair olwyn ym Mhencampwriaethau Tennis Cadair Olwyn Agored Prydain, o'i dro cyntaf yn y gadair, at gwrdd â chwaraewyr Cynghrair Tennis Lleol Cadair Olwyn LTA Llundain, hyd at ei gêm gystadleuol gyntaf.
Gan ddilyn Llwybr Perfformiad Tennis Cadair Olwyn a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, gwelwn Billy yn cael ei hyfforddi a'i fentora gan chwaraewyr gorau Prydain a chan hyfforddwyr yr LTA, ac wrth baratoi ar gyfer ei her tennis bydd yn cwrdd â llu o unigolion sydd ar eu taith eu hunain gyda’r gamp.
Am ei daith hyd yma, dywedodd Billy: "Er i mi gael profiad hynod fyr â thennis pan oeddwn yn iau, ym Mhencampwriaethau Tenis Cadair Olwyn Agored Prydain y ces gyfle i wylio chwaraewyr proffesiynol tennis cadair olwyn yn chwarae am y tro cyntaf. Ni allwn wrthod y cyfle i ddysgu mwy am y gamp ac i gystadlu â chwaraewyr gorau Prydain. Mae mwy a mwy o bobl yn dechrau chwarae tennis cadair olwyn, a dwi wedi penderfynu ei bod hi'n hen bryd i mi ymuno â nhw".
Dywedodd Cain Berry, Arweinydd Perfformiad, Llwybr Perfformiad Cadair Olwyn LTA: “Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n haeddu’r diolch am ein galluogi ni i gynnig cyfleoedd anhygoel i gyflwyno mwy i chwaraeon Tennis Cadair Olwyn, ar lawr gwlad hyd at uchelfannau’r llwyfan rhyngwladol - o'r Grand Slams i'r Gemau Paralympaidd. Mae'r gyfres newydd hon gyda Billy yn rhoi cipolwg ar y byd hwnnw, yn cyflwyno llu o gymeriadau sy’n gweithio’n galed yn y maes, a’r gobaith yw y bydd yn ysbrydoli hyd yn oed mwy o'r genhedlaeth nesaf i roi cynnig ar y gamp."
Bydd penodau pellach yn cael eu darlledu bob wythnos ym mis Medi 2022 ar YouTube ac ar sianeli cymdeithasol yr LTA. Gwyliwch yr holl benodau ar Sianel You Tube LTA.