Gyrfaoedd

Rydyn ni’n gweithio gyda’r goreuon, pwy bynnag ydyn nhw. Rydym yn meithrin ac yn herio.
Dyna pam ein bod ni’n Darlledu Lleoedd Gorau i Weithio 2017, 2018, 2019, 2020 a 2022.

AGORIADAU PRESENNOL

CYNHYRCHYDD, CHWARAEON MODUR

Mae Whisper yn gwahodd ceisiadau gan Gynhyrchwyr profiadol i helpu i arwain ein Tîm Cynhyrchu Fformiwla Un sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, Cymru.

Mae Whisper yn gwmni cynhyrchu blaenllaw byd-eang, yn arbenigo mewn chwaraeon ac adloniant brand heb ei sgriptio.

Mae ein tîm amrywiol o dros 270 o aelodau staff yn gweithio mewn swyddfeydd ledled y DU a thu hwnt, yn cynhyrchu chwaraeon o’r lefel uchaf fel Formula One, UEFA a’r Paralympics, yn ogystal â chynnwys brand, rhaglenni dogfen amser brig a sioeau cwis adloniant ar gyfer llu o ddarlledwyr.

Yn 2023 enillodd Whisper BAFTA a chafodd ei enwebu ar gyfer EMMY Rhyngwladol.

Mae Sony Pictures Television yn un o gyd-berchnogion y cwmni ac mae wedi ennill gwobr Lle Darlledu Gorau i Weithio ar saith achlysur.

Fe fydd y rôl hon yn gweithio’n bennaf ar ein darllediadau Fformiwla Un, gan helpu i arwain tîm cynhyrchu i gyflwyno uchafbwyntiau’r rowndiau cymhwyso a’r rasys dros 23 penwythnos a darllediadau byw o Grand Prix Prydain.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol ddiddordeb brwd mewn chwaraeon modur, a gwybodaeth am sut mae penwythnosau rasio yn gweithio o safbwynt darlledu.

Mae angen profiad fel cynhyrchydd oriel rhaglenni byw, a phrofiad o weithio gyda thimau cyflwyno ar y sgrin i feithrin hunaniaeth a pherthynas.

Byddai gwybodaeth am lwyth gwaith cynhyrchu o bell yn fantais.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o gynllunio ymlaen llaw a chyflwyno chwaraeon teledu byw, a dealltwriaeth ddofn o sut mae angen trefnu timau cynhyrchu i gyflwyno rhaglenni drwy gydol tymor hir.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda chynhyrchydd gweithredol, uwch-gynhyrchydd, ac yn helpu i ddatblygu tîm iau newydd, gan gynnwys rheolwr cynhyrchu iau, cydlynydd cynhyrchu, cynhyrchydd cynorthwyol, peiriannydd gweithrediadau cyfryngau iau a golygydd i sicrhau bod gan ddarllediadau Fformiwla Un Whisper y gwerthoedd cynhyrchu uchaf posibl.

Mae Whisper yn falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir, cymuned a phrofiad bywyd. Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.

Prif gyfrifoldebau:

  • Gweithio mewn rôl arweinyddol i helpu i gynllunio darllediadau byw o Fformiwla Un drwy gydol y tymor
  • Gweithio gyda, a chynorthwyo datblygiad, tîm cymharol di-brofiad
  • Cynhyrchu darllediadau oriel ochr yn ochr â uwch-gynhyrchydd ar leoliad gan gynnwys cyffro cyn, a dadansoddi ar ôl, y ras
  • Gweithio ar leoliad gyda thalent, datblygu trefn y rhaglen a sgriptiau
  • Gweithio gyda thimau Fformiwla Un a chynnal perthnasoedd cryf â nhw
  • Datblygu a chyflwyno cysyniadau creadigol eraill
  • Gweithio yn y gwaith golygu i gynhyrchu VTs
  • Bod yn aelod cyfrifol o’r tîm, gyda gwerthfawrogiad o gynhyrchu’r sioe o’r dechrau i’r diwedd
  • Sicrhau bod yr holl gynnwys o safon o’r radd flaenaf, wedi’i ymchwilio’n drylwyr ac yn gywir yn ffeithiol
  • Gweithio’n effeithiol gydag adrannau, cleientiaid a phartneriaid eraill (mewnol ac allanol), gan gynnal perthnasoedd a chyfathrebu rhagorol Whisper
  • Sicrhau bod yr allbwn yn cydymffurfio â safonau golygyddol, technegol, dylunio a hygyrchedd Whisper, gan weithio bob amser yn unol â pholisi Iechyd a Diogelwch y cwmni.

Noder y gellir newid, ychwanegu at, neu ddileu cyfrifoldebau i adlewyrchu anghenion newidiol y cynhyrchiad neu’r sefydliad.

Dealltwriaeth, Sgiliau a Phrofiad:

  • Gwybodaeth eang ac angerdd dros chwaraeon modur
  • Profiad amlwg o weithio yn yr oriel yn cynhyrchu adroddiadau chwaraeon byw prysur, addysgiadol ac adloniadol
  • Dymunol: Profiad o arwain tîm cynhyrchu bach o gyflwyno rhaglenni drwy’r tymor
  • Profiad o ysgrifennu trefn y rhaglen a dealltwriaeth o’r gofyniad am gywirdeb a sylw i fanylion.
  • Y gallu i ysgrifennu sgriptiau clir a chryno
  • Profiad o gynhyrchu tîm cyflwyno ar y sgrin, a datblygu perthnasoedd ar draws tymor i greu’r rhaglenni gorau.
  • Y gallu i adnabod stori dda, dyfeisio a datblygu syniadau creadigol cryf
  • Dealltwriaeth o’r broses olygu a’r gallu i hyrwyddo safonau a rhoi adborth
  • Gwybodaeth gref am ganllawiau golygyddol a pholisïau cydymffurfio Whisper, neu barodrwydd i sefydlu hyn yn gyflym
  • Profiad gyda llwythi gwaith cymhleth, blaenoriaethu a chyflawni’n gyson o fewn terfynau amser, ymateb yn gadarnhaol i newidiadau a gwrthdaro
  • Sgiliau cyfathrebu, gwneud penderfyniadau a datrys problemau cryf
  • Lefel amlwg o greadigrwydd gyda’r gallu i ddod â dull newydd ffres i greu allbwn deniadol ac esblygol

Dyddiau gwaith:

Swydd 4:1 yw hon, 4 diwrnod yn y swyddfa, 1 diwrnod yn gweithio o gartref mewn wythnosau lle nad oes rasys.

Bydd y rôl yn cynnwys gweithio ar benwythnosau ac oriau i ateb anghenion y cynhyrchiad, yn ôl calendr Fformiwla Un a pharthau amser rasys, yn ogystal â diwrnodau mewn wythnosau rasys yng Nghanolfan Ddarlledu Caerdydd.

Rhoddir diwrnodau yn ôl am unrhyw ddiwrnodau a weithir dros wythnos pum diwrnod.

Mae Whisper yn cynnig yr opsiwn o oriau hyblyg yn amodol ar ofynion cynhyrchu.

Lleoliad:

Caerdydd 

Dechrau/Gorffen:

Medi/Hydref 2025 Cytundeb llawn amser tan Rhagfyr 2026

Cyflog:

Yn ddibynnol ar brofiad

Dyddiad cau:

Gwener 18ydd Gorffennaf, 4pm BST

Sut i ymgeisio:

Anfonwch CV a nodyn eglurhaol yn dweud wrthym yn eich ffordd eich hun pam mai chi yw’r ymgeisydd cywir ar gyfer y rôl hon yma.

UWCH GYDLYNYDD SWYDDFA
– WHISPER CYMRU

Mae Whisper yn gwmni cynhyrchu blaenllaw byd-eang, yn arbenigo mewn chwaraeon ac adloniant brand heb ei sgriptio.

Mae ein tîm amrywiol o dros 270 o aelodau staff yn gweithio mewn swyddfeydd ledled y DU a thu hwnt, yn cynhyrchu chwaraeon o’r lefel uchaf fel Formula One, UEFA a’r Paralympics, yn ogystal â chynnwys brand, rhaglenni dogfen amser brig a sioeau cwis adloniant ar gyfer llu o ddarlledwyr.

Yn 2023 enillodd Whisper BAFTA a chafodd ei enwebu ar gyfer EMMY Rhyngwladol.

Mae Sony Pictures Television yn un o gyd-berchnogion y cwmni ac mae wedi ennill gwobr Lle Darlledu Gorau i Weithio ar saith achlysur.

Rydym yn chwilio am Uwch Gydlynydd Swyddfa profiadol i ymuno â Swyddfa Cymru a’r Ganolfan Ddarlledu yng Nghaerdydd.

Yr ymgeisydd llwyddiannus bydd wyneb swyddfa Whisper Cymru ac yn cymryd cyfrifoldeb llwyr o’r swyddfa Gynhyrchu – gan ddarparu profiad proffesiynol i’n cleientiaid ac aelodau’r tîm, sicrhau cydymffurfiaeth ag iechyd a diogelwch a gwneud yn siwr bod ein cyfleusterau’n rhedeg yn esmwyth.

Byddant hefyd yn gyfrifol am reoli Canolfan Ddarlledu Cymru.

Mae Whisper yn falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir, cymuned a phrofiad bywyd. Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.

Prif Gyfrifoldebau:

  • Bod yn arloeswr diwylliant Whisper – creu amgylchedd hapus a chadarnhaol i aelodau ein tîm weithio ynddo
  • Bod yn chwaraewr tîm – bod yn barod i rolio’ch llewys i fyny a chyflawni pethau
  • Rheoli Swyddfa Whisper Cymru yn effeithiol, gan sicrhau bod gweithrediadau’n rhedeg yn esmwyth a gweithredu gwelliannau i brosesau yn rhagweithiol lle bo angen
  • Trefnu digwyddiadau swyddfa – eu cynllunio a’u cynnal
  • Sicrhau bod yr holl gyflenwadau swyddfa yn cael eu prynu yn ôl yr angen
  • Rheoli costau a chyllidebau swyddfa a chynnal a chadw
  • Gweithio ochr yn ochr â’n Rheolwr TG i sicrhau bod yr holl faterion technoleg yn cael eu codi a’u datrys yn esmwyth yn y swyddfa
  • Rheoli’r berthynas â chwmnïau allanol (e.e. cynnal a chadw, asiantau rheoli a glanhau) – cadw golwg ar amserlenni cynnal a chadw ataliol ac adweithiol a gynlluniwyd, a chytundebau ac amserlenni glanhau
  • Datblygu, gweithredu a rheoli rhaglenni cadwraeth ynni ar gyfer swyddfeydd yn unol â’n mentrau cynaliadwyedd a sicrhau effeithlonrwydd cost
  • Adolygu polisïau’r cwmni sy’n ymwneud â chyfleusterau, gan gynnwys polisïau iechyd a diogelwch a sicrhau bod Whisper yn cydymffurfio â’r holl rwymedigaethau corfforaethol a chyfreithiol
  • Cadw’r holl waith papur cyfleusterau ac iechyd a diogelwch wedi’i gofnodi a’i ddiweddaru
  • Rheoli iechyd a diogelwch mewn perthynas â’r adeilad, gweithwyr a gwerthwyr, a chwblhau’r risg angenrheidiol asesiadau
  • Darparu cefnogaeth rheoli swyddfa i safleoedd eraill lle bo angen

Noder y gellir newid, ychwanegu at, neu ddileu cyfrifoldebau i adlewyrchu anghenion newidiol y cynhyrchiad neu’r sefydliad.

Sgiliau a Phrofiad:

  • Rheoli Swyddfa
  • Profiad o wasanaeth cwsmeriaid
  • Y gallu i feddwl ar eich traed a bod yn gyfforddus yn adweithiol yn ogystal â rhagweithiol
  • Hanes o weithredu systemau a phrosesau cyfleusterau
  • Sgiliau mewn rheoli cyllideb
  • Profiad blaenorol o reoli cydymffurfiaeth iechyd a diogelwch
  • Y gallu i ddeall anghenion gweithredol y cwmni a’r set sgiliau i ddarparu cynllunio ymlaen llaw i gefnogi rhedeg cyfleusterau Whisper ar draws y DU yn esmwyth
  • Y gallu i flaenoriaethu tasgau, gweithio dan bwysau, a gwneud penderfyniadau’n gyflym
  • Profiad o reoli prosiectau
  • Sgiliau cyfathrebu a meithrin perthnasoedd gwych, gyda lefel uchel o ddeallusrwydd emosiynol
  • Sgiliau TG cryf, gan gynnwys hyfedredd mewn Microsoft Word ac Excel
  • Agwedd gadarnhaol, rhagweithiol a blaengar
  • Y gallu i weithio ar eich menter eich hun, gyda goruchwyliaeth leiaf
  • Awydd i arwain a chymryd perchnogaeth yn y rôl
  • Hyblygrwydd ac addasrwydd i lwythi gwaith sy’n newid
  • Lefel uchel o drefniadaeth a rheoli amser

Dyddiau gwaith:

Llun i Gwener.

5 diwrnod yr wythnos, yn y swyddfa.

Fe fydd disgwyl i chi weithio gyd’r îm i gynllunio amserlen yn ddibynnol ar anghenion cynhyrchu.

Rhoddir diwrnodau yn ôl am unrhyw ddiwrnodau a weithir dros wythnos pum diwrnod.

Gallwn hefyd ystyried ceisiadau gan y rhai sydd â diddordeb mewn rôl rhan-amser.

Lleoliad:

Caerdydd

Dechrau/Gorffen:

Cyn gynted â phosib am 12 mis

Dyddiad cau:

Llun 21ain Gorffennaf

Cyflog:

Yn ddibynnol ar brofiad

Sut i ymgeisio:

Anfonwch CV a nodyn eglurhaol yn dweud wrthym yn eich ffordd eich hun pam mai chi yw’r ymgeisydd cywir ar gyfer y rôl hon yma.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.