S4C YN COMISIYNU ‘O’R STRYD I’R SGRYM’ GAN WHISPER CYMRU, A FYDD YN ARDDANGOS FFORMAT RYGBI NEWYDD WORLD RUGBY

Mae Whisper Cymru wedi cyhoeddi heddiw bod S4C wedi comisiynu cyfres chwe-rhan newydd, O’r Stryd i’r Sgrym, a fydd yn cynnwys chwaraewyr rhyngwladol presennol a blaenorol Cymru. Fe fydd y gyfres yn dilyn hynt a helynt creu tîm rygbi newydd sbon gydag aelodau o’r cyhoedd, sydd heb gael y cyfleoedd gorau mewn bywyd. Hyd yn hyn!

Bydd y gyfres yn dangos rygbi T1, y fformat digyswllt cwbl newydd gan World Rugby, a lansiwyd ar 17 Hydref ym Mharis.

Bydd y chwe rhaglen yn dilyn grŵp o chwaraewyr di-brofiad, o gefndiroedd amrywiol, wrth iddynt ddysgu sut i chwarae’r gêm yng ngofal grŵp o gyn chwaraewyr rhyngwladol. Bydd disgwyl i’r chwaraewyr fynd trwy sesiynau ymarfer anodd a darganfod sut i weithio gyda’i gilydd fel tîm.

Yn arwain y chwaraewyr newydd y bydd cyn gapten Cymru, Scott Quinnell, gyda chymorth cyn-chwaraewyr rhyngwladol adnabyddus eraill, mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru a’r elusen School of Hard Knocks.

Penllanw’r gyfres bydd gêm gystadleuol o rygbi digyswllt T1 yn erbyn clwb sefydledig yn Lloegr yn ystod pencampwriaeth y 6 Gwlad 2024. A fydd y tîm newydd yn goresgyn yr anawsterau a, thrwy werthoedd rygbi, yn creu sylfaen a fydd yn newid eu bywydau am byth?

Bydd y gyfres yn cael ei ffilmio yn y Trallwng a’r cyffiniau a’r bwriad yw ei darlledu o amgylch Chwe Gwlad y Dynion yn 2024.  

Mae Whisper Cymru yn cynnal diwrnod agored i’r cyhoedd yng Nghlwb Rygbi’r Trallwng ddydd Mawrth 31 Hydref 3PM ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen ddogfen gyffrous hon.

Dywedodd Carys Owens, Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper Cymru: “Mae cymaint o elfennau cyffrous i’r prosiect hwn. Dyma un o’r troeon cyntaf y bydd T1, fformat newydd World Rugby, yn cael ei harddangos ac mae’n teimlo’n arbennig iawn ar gyfer prosiect mor wych. Rydym wedi gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru ers blynyddoedd lawer ac mae’n wych arddangos gwerthoedd rygbi fel hyn a dangos sut y gall y gamp helpu cymdeithas. Byddwn yn tynnu ar ein profiad cryf o gynhyrchu rygbi a’n dull uchelgeisiol o gyflwyno cynnwys.”

“Mae S4C yn falch iawn o fod ymhlith y cyntaf i roi llwyfan i’r fformat newydd cyffrous yma o rygbi a hynny mewn cyfres afaelgar fydd yn dangos pŵer chwaraeon i drawsnewid bywydau pobl.” Iwan England – Pennaeth Di-Sgript S4C

Cynhyrchiad gan Whisper Cymru ar gyfer S4C yw O’r Stryd i’r Sgrym. Mae’r gyfres wedi ei chomisiynu gan Iwan England. Y Cynhyrchwyr Gweithredol ar gyfer Whisper Cymru yw Carys Owens a Siôn Jones, ynghyd â’r Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr Lynne Thomas-Davies.

Whisper Cymru yw swyddfa rhanbarthol y cwmni cynhyrchu rhyngwladol Whisper. Dan arweiniad Carys Owens, mae’r tîm 20+ wedi cyflwyno rhaglenni dogfen arloesol, gan gynnwys y rhaglen ddogfen Two Sides a enwebwyd am Emmy Rhyngwladol, yn ogystal â Return to Rockfield gydag Oasis a Gamechangers gyda’r BBC. Mae hefyd yn cynhyrchu’r Chwe Gwlad y Merched (BBC), Cwpan Rygbi’r Byd (S4C), cynnwys ar gyfer Undeb Rygbi Cymru, Llewod Prydain ac Iwerddon a llawer mwy. Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae wedi ennill Lle Darlledu Gorau i Weithio chwe gwaith, ac yn enillydd Busnes y Flwyddyn Caerdydd yng Ngwobrau Busnes Caerdydd 2022.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.