Mae Whisper, cwmni cynhyrchu chwaraeon blaenllaw, ar fin cyflwyno darllediadau S4C o Gwpan Rygbi’r Byd, sy’n dechrau ar 8 Medi 2023. Bydd y darllediadau yn cael eu cynhyrchu gan Whisper Cymru, swyddfa ranbarthol lwyddiannus Whisper, sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd.
Mewn cytundeb newydd gyda S4C, bydd Whisper Cymru yn dod â darllediadau byw o holl gemau Cymru, yn ogystal â gêm gyntaf y gystadleuaeth rhwng Ffrainc a Seland Newydd ar 8 Medi, gemau’r trydydd safle, y gemau ail gyfle, y rownd gynderfynol a’r gêm derfynol. Bydd y tîm arobryn hefyd yn cyflwyno portffolio helaeth o gynnwys digidol a chipolwg ar y gystadleuaeth gyda mynediad unigryw i dîm Cymru.
Dyma’r cynhyrchiad diweddaraf ym mhortffolio rygbi cynyddol Whisper Cymru, sy’n cynnwys partneri ag Undeb Rygbi Cymru ar gyfer cynnwys trwy gydol y flwyddyn, darllediadau byw o Uwch Gynghrair Indigo a chyflwyno darllediad Chwe Gwlad y Menywod ar gyfer y BBC, a gyrhaeddodd y gynulleidfa fwyaf erioed yn 2023. Bu’r tîm hefyd yn cyflwyno Cwpan Rygbi’r Byd i S4C yn 2019 yn ogystal â chynhyrchu’r gyfres Two Sides, a ddilynodd y Llewod ar eu taith ddiweddaraf i Dde Affrica.
Mae Whisper wedi buddsoddi’n sylweddol i dyfu’r tîm yng Nghaerdydd, sydd wedi cynyddu o saith o bobl yn 2019 i 23 yn 2023, gyda chwe swydd arall yn cael eu hysbysebu ar hyn o bryd.
Carys Owens a Siôn Jones bydd yn arwain y tîm cynhyrchu yn Ffrainc fel Cynhyrchwyr Gweithredol, gyda Ceri Jenkins yn Gynhyrchydd.
Bydd tîm cyflwyno ar-leoliad Whisper yn cael ei arwain gan Sarra Elgan a Jason Mohammed, gyda nifer o arbenigwyr gwadd adnabyddus, gan gynnwys Mike Philips, Siwan Lillicrap a Robin McBryde. Bydd gan y tîm ddau safle cyflwyno yn Ffrainc, gydag un wrth ochr y cae.
Carys Owens, Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper Cymru: “Pan enillon ni Gwpan Rygbi’r Byd i S4C am y tro cyntaf yn 2019, roedd yn foment arwyddocaol i ni wrth i ni wireddu ein cynlluniau uchelgeisiol yn y gamp. Pedair blynedd yn ddiweddarach rydym yn enw adnabyddus yn y maes, gyda chleientiaid sy’n cynnwys Undeb Rygbi Cymru, World Rugby, y BBC, y Llewod a'r Crysau Duon.
Rydyn ni’n falch iawn o barhau â’n perthynas wych gydag S4C ac yn edrych ymlaen at gyflwyno cynnwys difyr ac uchelgeisiol wrth i ni geisio sicrhau’r sylw mwyaf posib i Gwpan y Byd ar gyfer cynulleidfa Gymreig a thu hwnt”
Dywedodd Geraint Evans, Cyfarwyddwr Cynnwys a Strategaeth Cyhoeddi:“Mae’n bleser gennym bartneri gyda Whisper ar ein darllediadau ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd ac ymestyn y berthynas waith wych sydd gennym gyda’r cwmni.
“S4C a Whisper fydd tîm Cymru yn Ffrainc. Os oes unrhyw un yn chwilio am ddarllediadau manwl a gwybodus, gan dîm newydd angerddol a fydd â Chymru yn ganolog iddi, yna S4C yw'r sianel i'w gwylio. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gefnogi Cymru drwy gydol yr ymgyrch.”
Fel rhan o ddarllediadau S4C o Gwpan y Byd, bydd y sianel yn rhyddhau rhaglen ddogfen wedi’i chynhyrchu gan Whisper am Ifan Phillips, cyn-chwaraewr dan 20 Cymru a gollodd ei goes yn dilyn damwain beic modur ddifrifol yn 2021.
Gyda’r ddamwain yn dod â gyrfa rygbi Ifan i ben, mae’r rhaglen ddogfen a gomisiynwyd gan S4C o’r enw Ifan Phillips: y Cam Nesaf, yn dilyn ei adferiad dros y 18 mis nesaf. Bydd yn cael ei darlledu ar 28 Medi, am 9pm.
Lansiwyd Academi Whisper yn ddiweddar gan Whisper, gyda gweithdai yn cychwyn y mis hwn yn eu swyddfeydd yng Nghaerdydd. Bydd pedwar aelod cyntaf yr Academi yn gweithio ar ddarllediadau Cwpan Rygbi'r Byd.