WHISPER A S4C I DDARLLEDU CWPAN RYGBI’R BYD YN FYW I GYMRU – Y GENEDL RYGBI

Mae Whisper, cwmni cynhyrchu chwaraeon blaenllaw, ar fin cyflwyno darllediadau S4C o Gwpan Rygbi’r Byd, sy’n dechrau ar 8 Medi 2023. Bydd y darllediadau yn cael eu cynhyrchu gan Whisper Cymru, swyddfa ranbarthol lwyddiannus Whisper, sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd.

Mewn cytundeb newydd gyda S4C, bydd Whisper Cymru yn dod â darllediadau byw o holl gemau Cymru, yn ogystal â gêm gyntaf y gystadleuaeth rhwng Ffrainc a Seland Newydd ar 8 Medi, gemau’r trydydd safle, y gemau ail gyfle, y rownd gynderfynol a’r gêm derfynol. Bydd y tîm arobryn hefyd yn cyflwyno portffolio helaeth o gynnwys digidol a chipolwg ar y gystadleuaeth gyda mynediad unigryw i dîm Cymru.

Dyma’r cynhyrchiad diweddaraf ym mhortffolio rygbi cynyddol Whisper Cymru, sy’n cynnwys partneri ag Undeb Rygbi Cymru ar gyfer cynnwys trwy gydol y flwyddyn, darllediadau byw o Uwch Gynghrair Indigo a chyflwyno darllediad Chwe Gwlad y Menywod ar gyfer y BBC, a gyrhaeddodd y gynulleidfa fwyaf erioed yn 2023. Bu’r tîm hefyd yn cyflwyno Cwpan Rygbi’r Byd i S4C yn 2019 yn ogystal â chynhyrchu’r gyfres Two Sides, a ddilynodd y Llewod ar eu taith ddiweddaraf i Dde Affrica.

Mae Whisper wedi buddsoddi’n sylweddol i dyfu’r tîm yng Nghaerdydd, sydd wedi cynyddu o saith o bobl yn 2019 i 23 yn 2023, gyda chwe swydd arall yn cael eu hysbysebu ar hyn o bryd.

Carys Owens a Siôn Jones bydd yn arwain y tîm cynhyrchu yn Ffrainc fel Cynhyrchwyr Gweithredol, gyda Ceri Jenkins yn Gynhyrchydd.

Bydd tîm cyflwyno ar-leoliad Whisper yn cael ei arwain gan Sarra Elgan a Jason Mohammed, gyda nifer o arbenigwyr gwadd adnabyddus, gan gynnwys Mike Philips, Siwan Lillicrap a Robin McBryde. Bydd gan y tîm ddau safle cyflwyno yn Ffrainc, gydag un wrth ochr y cae.

Carys Owens, Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper Cymru: “Pan enillon ni Gwpan Rygbi’r Byd i S4C am y tro cyntaf yn 2019, roedd yn foment arwyddocaol i ni wrth i ni wireddu ein cynlluniau uchelgeisiol yn y gamp. Pedair blynedd yn ddiweddarach rydym yn enw adnabyddus yn y maes, gyda chleientiaid sy’n cynnwys Undeb Rygbi Cymru, World Rugby, y BBC, y Llewod a'r Crysau Duon.

Rydyn ni’n falch iawn o barhau â’n perthynas wych gydag S4C ac yn edrych ymlaen at gyflwyno cynnwys difyr ac uchelgeisiol wrth i ni geisio sicrhau’r sylw mwyaf posib i Gwpan y Byd ar gyfer cynulleidfa Gymreig a thu hwnt

Dywedodd Geraint Evans, Cyfarwyddwr Cynnwys a Strategaeth Cyhoeddi:Mae’n bleser gennym bartneri gyda Whisper ar ein darllediadau ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd ac ymestyn y berthynas waith wych sydd gennym gyda’r cwmni.

“S4C a Whisper fydd tîm Cymru yn Ffrainc. Os oes unrhyw un yn chwilio am ddarllediadau manwl a gwybodus, gan dîm newydd angerddol a fydd â Chymru yn ganolog iddi, yna S4C yw'r sianel i'w gwylio. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gefnogi Cymru drwy gydol yr ymgyrch.

Fel rhan o ddarllediadau S4C o Gwpan y Byd, bydd y sianel yn rhyddhau rhaglen ddogfen wedi’i chynhyrchu gan Whisper am Ifan Phillips, cyn-chwaraewr dan 20 Cymru a gollodd ei goes yn dilyn damwain beic modur ddifrifol yn 2021.

Gyda’r ddamwain yn dod â gyrfa rygbi Ifan i ben, mae’r rhaglen ddogfen a gomisiynwyd gan S4C o’r enw Ifan Phillips: y Cam Nesaf, yn dilyn ei adferiad dros y 18 mis nesaf. Bydd yn cael ei darlledu ar 28 Medi, am 9pm.

Lansiwyd Academi Whisper yn ddiweddar gan Whisper, gyda gweithdai yn cychwyn y mis hwn yn eu swyddfeydd yng Nghaerdydd. Bydd pedwar aelod cyntaf yr Academi yn gweithio ar ddarllediadau Cwpan Rygbi'r Byd.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.