WHISPER YN YMUNO Â’R CHWMNI BOCSIO BYD-EANG PROBELLUM

Mae Whisper yn falch iawn o gyhoeddi Partneriaeth Cynhyrchu newydd gyda Probellum, cwmni cyfryngau a hyrwyddo bocsio byd-eang a’r brand sy'n tyfu gyflymaf yn y gamp.

Lansiwyd Probellum ym Medi 2021, a than arweiniad Richard Schaefer, un o hyrwyddwyr bocsio mwyaf uchel ei barch a llwyddiannus yr 20 mlynedd diwethaf, byddant yn chwyldroi'r ffordd y mae bocsio'n cael ei hyrwyddo.

Trwy gyfuno hyrwyddo, cyfryngau ac arbenigedd brand, maen nhw eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda'u cynlluniau i ddatblygu'r gamp.

Ar ôl arwyddo partneriaethau hyrwyddo-ar-y-cyd gyda rhai o hyrwyddwyr mwya’r byd, gan gynnwys un yr wythnos ddiwethaf â DiBella Entertainment, cwmni Lou DiBella sy’n aelod o’r Boxing Hall of Fame, addewid Probellum yw gweithio gyda'r holl hyrwyddwyr wrth fuddsoddi'n helaeth mewn bocsio ar lawr gwlad.

Mae eu rhestrau elît ac amrywiol yn cynnwys y pencampwyr byd mewn sawl dosbarth Ricky Burns a Nonito Donaire, pencampwr pwysau pryf presennol y byd, Sunny Edwards, y seren o’r Unol Daleithiau, Regis Prograis, ac enillydd medal aur Olympaidd, Estelle Mossley.

Bydd Probellum a Whisper yn rhannu gweledigaeth gyffredin o gyflwyno chwaraeon fel adloniant, gan fanteisio ar dalent profedig Whisper o ran cyflwyno chwaraeon mewn ffordd newydd er mwyn apelio at gynulleidfa mor eang â phosibl heb golli’r gwylwyr craidd.

Gan ganolbwyntio ar bum brwydr sydd ar y gweill, bydd Whisper yn defnyddio eu profiad o fod yn ddarlledwr er mwyn cyflwyno 'teledu digwyddiad' fel rhan o gytundeb darlledu newydd sydd ar fin digwydd, cytundeb sydd i’w gyhoeddi gan Probellum cyn eu digwyddiadau Probellum Evolution yn Dubai ym mis Mawrth.

Fel maen nhw wedi'i wneud o'r blaen gydag F1, WSL, NFL a Chriced Rhyngwladol, bydd Whisper yn cyfuno graffeg sy'n denu’r llygaid, talent sydd â digon i’w ddweud, onglau camera sy’n help i chi ymgolli, a dawn dweud straeon creadigol er mwyn cynnig y ‘sedd orau’ i’r gwylwyr.

Dywedodd John Curtis, Cynhyrchydd Gweithredol Whisper: "Yn ein gwaith â Probellum, ein nod yw datblygu dull cydgysylltedig o drin y darllediad a’r profiad yn yr arena, gan fod awyrgylch gwych yn y lleoliad yn dyrchafu'r darllediad hefyd. Mae gennym dîm perffaith i gyflawni'r weledigaeth o ddarllediad deniadol y gellir ymgolli ynddo, sydd â rhagoriaeth olygyddol ym mhob maes, gan gynnwys camu i’r cylch, darllediadau byw o ornestau, ailddangosiadau, sylwebaeth a chynnwys cyn yr ornest. Mae Probellum yn rhannu ein huchelgais a'n brwdfrydedd i ddarparu darllediadau bocsio gwirioneddol wych.”

Dywedodd Anthony Petosa, Enillydd Gwobr Emmy ac Is-lywydd Gweithredol Cynhyrchu a Chreadigol Probellum: "Mae Probellum eisiau ail-ddychmygu sut y gellir cyflwyno bocsio mewn ffordd sy'n cyflwyno’r athletwyr a'r gamp i gynulleidfaoedd newydd wrth chwalu'r meddylfryd 'Dyma sut mae bocsio wedi ei wneud e erioed'.

"Rydyn ni’n falch iawn o fod yn bartner gyda Whisper a'u tîm talentog. O'r sgwrs gyntaf un roedden nhw'n deall ein gweledigaeth, ac mae wedi bod yn wych gweithio gyda nhw wrth baratoi ar gyfer y digwyddiadau sydd ar y gweill, gan ddechrau yn Dubai yn ddiweddarach y mis hwn."

Bydd Whisper a Probellum yn canolbwyntio ar y pum digwyddiad sydd ar y gweill i ddechrau, gan gynnwys dau ddigwyddiad yn Dubai (18 + 19 Mawrth), ac yna tri yn y DU. Byddan nhw'n cael eu cynnal ar 25 Mawrth yn Newcastle, 22 Ebrill yn Lerpwl, gyda thrydedd yn Llundain (dyddiad i'w gadarnhau).

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.