Cadarnhaodd Whisper heddiw eu bod ar fin dechrau ar ddau gontract criced newydd cyffrous, un gyda'r BBC a’r llall gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB).
Bydd y cytundeb gyda'r BBC yn golygu mai Whisper fydd yn cynhyrchu uchafbwyntiau criced oriau brig y darlledwr pan fo’r gamp yn dychwelyd i’r BBC ddydd Mercher 8 Gorffennaf am y tro cyntaf ers degawd. Mae'r cytundeb sawl blwyddyn yn cynnwys cynhyrchu uchafbwyntiau teledu ar gyfer gemau prawf domestig, gemau rhygnwladol undydd (ODI) a gemau T20Is o haf 2020.
Yn ogystal â hyn, bydd Whisper hefyd yn cynhyrchu uchafbwyntiau a chlipiau ar-lein ar wahân ar gyfer Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) trwy gydol 2020. Mae hyn yn cynnwys yr holl Brofion, gemau ODI a T20Is ar gyfer timau rhyngwladol y dynion a’r merched.
Bydd tîm cynhyrchu criced Whisper yn cael ei arwain gan Rob Williams, sydd eisoes wedi cynhyrchu sawl pencampwriaeth y Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC), gan gynnwys rownd derfynol Cwpan y Byd y llynedd yn Lord's, a hefyd yn cynnwys Mark Cole a Sunil Patel, a oedd yn rhan o ddarllediadau criced y BBC rhwng 1999 a 2009. Mae Mark wedi gweithio ar sawl Cwpan Criced y Byd, ar Gyfres y Lludw, a Phencampwriaethau Cwpan y Byd T20 ar gyfer y BBC, yn ogystal â gemau prawf byw a gemau ODI ar gyfer Sky Sports.
Byddant yn cydweithio â swyddog gweithredol cynyrchiadau, Sarah Warnock, a arferai weithio ar ddigwyddiadau mawr yr ICC, a'r uwch swyddog gweithredol cynhyrchu Anne Somerset, tra bydd y strategaeth ddigidol ac aml-lwyfan yn cael ei rheoli gan Chris Hurst, sydd â thros 15 mlynedd o brofiad ac sydd wedi gweithio i'r ICC yn y gorffennol.
Gyda’r BBC, mae'r tîm wedi cael y dasg o ehangu cyrhaeddiad ac effaith criced, gan gyflwyno’r gamp i gynulleidfaoedd newydd ac annog mwy o bobl i godi bat a phêl, a hynny fel rhan o sylw traws-blatfform y BBC.
Wrth drafod y cytundeb â’r BBC, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Whisper, Sunil Patel: "Mae gweithio ar griced ar gyfer y BBC yn gyfle anhygoel, ac mae pawb yn Whisper yn edrych ymlaen at gyflawni hyn gyda’r un agwedd uchelgeisiol â phob un o’n prosiectau eraill. Mae’r gamp yn cael ail wynt o ran poblogrwydd yn sgil buddugoliaeth ddramatig Lloegr yng Nghwpan Criced y Byd y llynedd, a gwych yw gweld y dylanwad cadarnhaol y gall chwaraeon ei gael. Mae llawer o dîm Whisper yn gefnogwyr criced brwd, ac yn llawn syniadau o ran sut allwn ni roi sylw i’r gamp a denu cynulleidfaoedd newydd gyda’n prosiectau criced newydd ."
O ran eu gwaith â Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB), mae gan Whisper brofiad o ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i ehangu cynulleidfaoedd chwaraeon eraill, fel y gwnaethant â’r NFL (ar gyfer y BBC), Fformiwla 1 (ar gyfer Channel 4) a'r Women's Super League (ar gyfer Cymdeithas Bêl-droed Lloegr), ac mae’r sioe ddigidol ddyddiol a gynhyrchwyd ganddynt gyda Chymdeithas Bêl-droed Lloegr yn ystod Cwpan y Byd Merched y llynedd wedi cael ei gwylio bron i 10 miliwn o weithiau.
Dywedodd Uwch Reolwr Creadigol ECB Jimmy Lee: "Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at weithio mewn partneriaeth â Whisper, cwmni sydd wedi dod â chymaint o egni a dyfeisgarwch gwych i’r diwydiant. Rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno’r tymor criced rhyngwladol sydd ar ddod gyda Sunil, Mark a gweddill y tîm, maen nhw’n rhannu ein huchelgais i ddyrchafu’r grefft o adrodd straeon chwaraeon yn y gofod digidol."
Dywedodd Mark Cole, Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper : "Rydyn ni’n falch iawn o gael gweithio gyda'r ECB. Dyma gyfle arall i arddangos ein dawn dweud digidol. Mae gan ein tîm angerdd enfawr dros griced, a syniadau cryf o ran sut mae modd defnyddio llwyfannau cymdeithasol i ehangu cynulleidfaoedd. Bydd y bartneriaeth yn y dyfodol yn ein galluogi i barhau i gefnogi criced merched ac i apelio at gynulleidfaoedd amrywiol ledled y wlad. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda'r ECB a'r BBC i ddangos bod criced yn gêm i bawb."
A hwythau ar hyn o bryd yn cynhyrchu mwy o uchafbwyntiau’n gyflym ar gyfer teledu daearol nag unrhyw gwmni annibynnol arall, mae Whisper yn ychwanegu criced at bortffolio uchafbwyntiau sy'n cynnwys Fformiwla 1, Chwe Gwlad y Merched, Women’s Super League, SailGP, W Series a’r NFL.