Mae Whisper wedi cipio coron driphlyg drwy hawlio TAIR gwobr yng Ngwobrau Broadcast Sport 2021, y tro cyntaf i’r gwobrau gael eu cynnal.
Dyma oedd y gwobrau: Rhaglen Adloniant Chwaraeon Orau, am Today in Tokyo ar gyfer Channel 4; Cynnwys Gwreiddiol Gorau gan Ddeiliad Hawliau, am Whistle Watch ar gyfer World Rugby a Cynhyrchiad Chwaraeon y Flwyddyn (Bob Pedair Blynedd), am y Gemau Paralympaidd ar gyfer Channel 4.
Roedd tipyn o gystadlu am y gwobrau hyn, gan gynnwys y ddwy bencampwriaeth Ewro a’r Gemau Olympaidd yng nghategori’r Cynhyrchiad Chwaraeon Gorau.
Sunil Patel, Prif Swyddog Gweithredol Whisper: "Nid enwebiadau a gwobrau sy’n ein diffinio ni yma yn Whisper, ond rydyn ni’n ddiolchgar iawn pan fyddwn yn eu derbyn! Mae ennill un wobr yn gamp, mae ennill tair yn anhygoel, ac ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb ein tîm gwych yn Whisper, maen nhw wastad yn dod ynghyd i gyflawni. Diolch hefyd i'n cydweithwyr yn Channel 4 a World Rugby ac i'n partneriaid, Timeline TV – sydd i gyd yn ein helpu ni i Wneud Iddo Ddigwydd! Rydyn ni’n ymfalchïo yn ein gallu i greu cynnwys difyr a beiddgar y mae modd ymgolli ynddo, ac mae cael y gydnabyddiaeth hon yn arbennig iawn."
Cynhaliwyd Gwobrau Broadcast Sport 2021 neithiwr (3 Tachwedd) yng Ngwesty’r Grosvenor ar Park Lane.