WHISPER YN ENNILL GWOBR SIOE ADLONIANT ORAU GYDA F1 AR CHANNEL 4

Billy, DC a Steve Jones

Enillodd Whisper wobr y Sioe Adloniant Chwaraeon Orau yn y Broadcast Sport Awards am eu Sioe Uchafbwyntiau Fformiwla Un ar Channel 4. Dyma'r ail dro i Whisper ennill y wobr, a'r tro cyntaf am eu rhaglen F1.

Mae’r Broadcast Sport Awards yn dathlu 'y gorau o ran cynnwys chwaraeon ar lwyfannau teledu a digidol'. Cynhaliwyd y seremoni neithiwr yng ngwesty’r Hilton ar Park Lane, gyda’r digrifwr a'r cyflwynydd Dara Ó Briain yn arwain. Roedd y gwesteion yn cynnwys Steve Jones, Dermot O'Leary, Alex Scott, Gabby Logan ac Ian Wright.

Caiff sioe F1 Channel 4 ei chyflwyno gan Steve Jones (a oedd wedi’i enwebu am wobr y Cyflwynydd Gorau), Lee McKenzie, David Coulthard (a oedd wedi’i enwebu am wobr y Pundit Gorau), Mark Webber, Billy Monger (a oedd wedi’i enwebu am wobr y Talent Ifanc Gorau) ac Alice Powell, ac mae’n aml yn darlledu i gynulleidfa o dros 2M.

Caiff ei golygu yn yr un modd ag y byddai rhaglen fyw, sy'n anarferol ar gyfer sioe uchafbwyntiau, ac mae pob rhaglen yn gymysgedd o montages cerddorol creadigol, cyfweliadau, graffeg chwim, cysylltiadau hwyliog a darnau nodwedd, gyda thîm cynhyrchu Whisper yn uno bydoedd chwaraeon ac adloniant yn grefftus.

Craidd y rhaglen yw rasio anhygoel gyda dawn dweud straeon - ac mae llawer o hynny diolch i Alex Jacques, a enillodd y Sylwebydd Gorau neithiwr am ei waith ar y rhaglen, ynghyd â gweddill y cyflwynwyr. Mae perfformiad Alex drwy gydol y tymor, yn enwedig yn ystod y digwyddiadau mawr fel Silverstone 2022 ac Abu Dhabi 2021, wedi bod heb ei ail, gan sylwebu mewn modd addysgiadol a chryno, gan ychwanegu drama’n gywrain ar yr adegau priodol.

 Dywedodd Sunil Patel, Prif Swyddog Gweithredol Whisper: "Mae sioe Fformiwla Un Channel 4 yn cynrychioli holl werthoedd Whisper: mae'n feiddgar, yn uchelgeisiol, yn greadigol, yn amrywiol ac yn ddifyr. Yr hyn sydd wedi gwneud argraff fawr arnaf yw’r ffaith mai sioe uchafbwyntiau ydyw, ond ei bod, oherwydd y tîm dan sylw a'u hymroddiad wrth gyflwyno cynnwys golygyddol cryf mewn ffordd hwyliog a hygyrch, bellach yn cael ei chydnabod fel y rhaglen adloniant chwaraeon orau ar y teledu. Clod enfawr i bawb sy’n rhan ohoni.

"Hoffwn ddiolch o galon hefyd i Channel 4, sy'n bartner gwych, ac i F1. Llongyfarchiadau i'r bawb oedd wedi’u henwebu ac i holl enillwyr neithiwr, bu’n ddigwyddiad gwych."

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.