Mae Whisper wedi cael eu henwebu am ddwy wobr yng Ngwobrau Newyddiaduraeth Chwaraeon Prydain a fydd yn cael eu cynnal yn fuan.
Mae enwebiadau Whisper yn y categori Darlledu am eu darllediadau Fformiwla Un ar gyfer Channel 4 a’u darllediadau uchelgeisiol o Gemau Paralympaidd Tokyo 2020 gyda Channel 4.
Mae'r gwobrau'n 'dathlu rhagoriaeth ymhlith awduron, ffotograffwyr, darlledwyr a golygyddion chwaraeon Prydain’.
Mae Whisper wedi’u henwebu ar gyfer y gwobrau canlynol:
Darllediadau Digwyddiadau Byw Teledu/Digidol: Gemau Paralympaidd Tokyo (Whisper ar gyfer Channel 4)
Sioe Deledu/Digidol: Fformiwla Un ar gyfer Channel 4 (Whisper ar gyfer Channel 4)
Gwych hefyd yw gweld yr anhygoel Ade Adepitan yn cael ei enwebu yng nghategori’r Cyflwynydd Chwaraeon Gorau, ef oedd yn arwain y rhaglen uchafbwyntiau ddyddiol, Today in Tokyo yn ystod Gemau Paralympaidd Tokyo 2020.
Cyflwynydd Chwaraeon – Ade Adepitan (Whisper ar gyfer Channel 4)
Gellir gweld rhestr fer Darlledu yn ei chyfanrwydd yma.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo gala yn y Park Plaza, Westminster Bridge, ddydd Llun 7 Mawrth 2022.
Pob lwc i bawb sydd wedi’u henwebu!