Whisper sydd wedi cynhyrchu'r bennod ddiweddaraf o gynnwys golygfaol Peloton, sy'n cynnwys llwybrau trawiadol ar draws Ucheldiroedd Gorllewin yr Alban.
Bu Whisper yn gweithio gyda Peloton i ffilmio’r dirwedd hardd hon ac i ddod â Hyfforddwyr Peloton, Susie Chan a Jon Hosking, i'r ardal er mwyn ffilmio sesiynau ymarfer yn ogystal â chynhyrchu cynnwys ar gyfer dosbarth sy'n seiliedig ar bellter ac amser, ac mae’r cynnwys bellach ar gael ar Peloton Bike, Bike+ a Tread.
Daeth Whisper a Peloton â thîm 45 person ynghyd, a oedd yn cynnwys dwy uned ar wahân yn ffilmio ar draws tri lleoliad dros sawl diwrnod. Oherwydd tir garw'r Alban, roedd angen y dechnoleg sefydlogi orau, a defnyddiwyd dwy rig libra wedi'u gosod ar gerbydau olrhain camera arbenigol er mwyn galluogi'r tîm i ffilmio yn rhai o ranbarthau mwyaf anghysbell Ucheldiroedd yr Alban.
Dyma’r tro cyntaf i Whisper gynhyrchu deunydd ar gyfer Peloton. Mae Whisper yn gwmni cynhyrchu sydd wedi bod yn gyfrifol am raglenni chwaraeon arobryn ac sydd, fel Peloton, yn adnabyddus am eu hymroddiad i amrywiaeth a chynhwysiant. Fel cwmni sydd wedi cynhyrchu rhaglenni chwaraeon ar y lefel uchaf, fel pencampwriaeth EURO Merched 2022, F1 a'r Gemau Paralympaidd, mae Whisper wedi helpu i arloesi ym maes chwaraeon merched a chwaraeon anabledd ac maen nhw’n weithgar wrth recriwtio pobl sy’n cael eu tangynrychioli i'w timau.
Dywedodd Jacqui Moore, Cynhyrchydd Gweithredol Peloton: "Mae ein partneriaeth â Whisper i greu ein cynnwys golygfaol diweddaraf yn gyffrous iawn. Nid yn unig oherwydd eu bod yn arbenigo mewn adloniant chwaraeon, ond hefyd oherwydd eu hanes da o ran cynhwysiant ac amrywiaeth."
Trwy gynhyrchu cynnwys golygfaol Ucheldir yr Alban mae Whisper wedi ehangu ei bortffolio cynnwys wedi’i frandio, gan fanteisio ar eu profiad o adrodd straeon trawiadol i greu cynnwys newydd, cryf a chreadigol ar gyfer brandiau.
Ychwanegodd Jemma Goba, Pennaeth Cynnwys Wedi’i Frandio a Digidol ar gyfer Whisper: "Rydyn ni’n falch o gynhyrchu'r cynnwys golygfaol hwn gyda Peloton. Trwy gyfuno ein harbenigedd adrodd straeon, ein talent cynhyrchu a’n rhwydwaith byd-eang gyda rhai o gyfarwyddwyr gorau'r diwydiant, crëwyd rhywbeth arbennig iawn. Rydw i wedi cael fy ysbrydoli gan y tîm amrywiol ac anhygoel a ddaeth ynghyd ar gyfer y prosiect hwn."
Bydd Whisper yn darparu cynnwys golygfaol ychwanegol ar gyfer Peloton yn ddiweddarach yn y flwyddyn, y tro hwn wedi'i gyfarwyddo gan Jessie Ayles a chyda Nathalie Pitters yn Gyfarwyddwr Ffotograffiaeth. Cyfarwyddwyd cynnwys yr Alban gan George Messa, gyda Sashi Kissoon yn Gyfarwyddwr Ffotograffiaeth, a Jemma Goba a Jacqui Moore yn Gynhyrchwyr Gweithredol.