Mae Whisper wedi cyrraedd rhestr fer yr Asiantaeth Orau yng Ngwobrau’r Diwydiant Chwaraeon am yr ail flwyddyn yn olynol.
Disgrifir y digwyddiad gwobrau mawreddog fel dathliad o’r ‘gwaith aruthrol a wneir y tu ôl i’r llenni yn y sector chwaraeon, gan anrhydeddu’r clybiau, timau, brandiau, asiantaethau ac arloeswyr sy’n sicrhau bod y diwydiant yn parhau i symud ymlaen a rhagori’.
Dywedodd Sunil Patel, Prif Swyddog Gweithredol a Chyd-sylfaenydd, Whisper: “Cawsom flwyddyn anhygoel yn 2022, gyda nifer o bethau’n digwydd am y tro cyntaf i Whisper, megis sicrhau rhaglen ddogfen heb-ei-ail ar Amazon Prime (Ben Stokes: Phoenix From The Ashes), darparu gornest teitl bocsiwr pwysau godrwm fel prif ddarlledwr gyfer Joshua v Usyk II, a gweithio fel prif ddarlledwr ar gyfer twrnamaint rhyngwladol gyda'r RLWC.
“Rydym wedi ein syfrdanu o gael ein henwebu eto ar gyfer Asiantaeth y Flwyddyn; rydym yn wynebu gwrthwynebwyr hynod dalentog! Pob lwc i’r holl enwebeion ar draws y Gwobrau.”
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ar 27 Ebrill yn Evolution yn Llundain.