WHISPER NORTH YN CREU ‘FUNNIEST EVER CHRISTMAS TV COCK-UPS’ AR GYFER CHANNEL 5

Dom Joly

Mae Whisper North, a lansiwyd ym mis Hydref, wedi cynhyrchu a chyflwyno sioe newydd i Channel 5, a fydd yn cael ei darlledu y penwythnos hwn: Funniest Ever Christmas TV Cock-Ups

Lansiwyd Whisper North fel cangen adloniant o'r cwmni cynhyrchu Whisper, a chafwyd comisiwn i ddarparu'r rhaglen nadoligaidd arbennig hon ym mis Tachwedd ac maen nhw wedi cyflawni’r dasg ar fyr rybudd.

Gydag Angus Deayton yn trosleisio, mae’r rhaglen hon yn llawn troeon trwstan a chamgymeriadau’r 40 mlynedd diwethaf o deledu a ffilmiau Nadoligaidd.

Gyda chlipiau o Morecambe & Wise, Mrs Brown's Boys, Home Alone a Last Christmas, bydd y sioe yn dangos llu o enwogion fel Dom Joly, Dr Ranj a Sherrie Hewson yn ymateb i gamgymeriadau doniol a ddaliwyd ar ffilm.

Dyma gomisiwn cyntaf y cwmni sydd wedi'i leoli ym Manceinion ac sy'n cael ei arwain gan eu Rheolwr Gyfarwyddwr, Tom McLennan.

Dywedodd Tom: "Rydyn ni’n falch iawn o gynhyrchu a darlledu ein comisiwn cyntaf un ar gyfer Channel 5 y Nadolig yma.  A ninnau ond wedi lansio ddeufis yn ôl, rhaid rhoi diolch enfawr i’n tîm anhygoel ac agwedd gadarnhaol teulu Whisper a waeth yr amhosibl yn bosib.  Alla i ddim aros i weld beth fydd gan 2022 i’w gynnig i Whisper North."

Mae'r cwmni, sy'n cynhyrchu fformatau adloniant, hefyd â phrosiectau datblygu ar y gweill gyda darlledwyr eraill, ac mae’n argoeli’n dda ar gyfer y flwyddyn newydd.

Cynhyrchwyd Funniest Ever Christmas TV Cock-Ups gan Chris Wake gyda'r Cynhyrchydd Gweithredol Tom McLennan ar gyfer Whisper North.

Bydd Funniest Ever Christmas TV Cock-Ups yn darlledu ar Sul 19 Rhagfyr 2021 am 10pm. 

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.