WHISPER NORTH I GYNHYRCHU JEOPARDY! AR GYFER CHANNEL 9, AWSTRALIA, CYFLWYNIR GAN STEPHEN FRY

Credit Elliott Spencer

Mae Whisper yn falch iawn cyhoeddi y bydd Whisper North yn cynhyrchu’r cwis â llwyddiant rhyngwladol Joepardy! ar gyfer Channel 9 yn Awstralia.

Fe fydd Whisper North yn cynhyrchu chwe rhaglen amser-brig arbennig ar gyfer Channel 9, a fydd yn cyflwyno’r rhaglen adloniant i gynulleidfa newydd yn Awstralia.

Disgwylir i’r ffilmio ddigwydd ym Manceinion ym mis Mai, fe fydd fersiwn Awstralia o’r sioe Americanaidd boblogaidd yn cael ei chyflwyno gan y darlledwr Prydeinig Stephen Fry gyda chystadleuwyr o Awstralia. Jeopardy! Awstralia bydd yr enw ar y rhaglen.

Fe fydd Channel 9 hefyd yn cymryd 20 pennod 1 awr y DU, a fydd hefyd yn cael eu recordio ym mis Mai ac o dan ofal Stephen Fry.

Yn y rhaglen, fe fydd cystadleuwyr yn chwarae i ennill, gan ddefnyddio eu dealltwriaeth gyffredinol i ennill rowndiau a chasglu enillion, yr hiraf iddynt aros yn y gêm.

Dywedodd Stephen Fry: “Mae gan Jeopardy! fformat sy’n mynd o dan groen cynulleidfa – er mor drawiadol o anarferol fel y mae’n ymddangos ar y dechrau, ac sy’n datgelu mwy a mwy o ddyfnderoedd o hyfrydwch. Heb sôn am ddyfnder gwybodaeth ymhlith y boblogaeth. Rwy’n credu y bydd Awstralia’n croesawu’r gêm hynod hudolus a gwerth chweil hon ac rwy’n edrych ymlaen i ddechrau arni.”

Dywedodd Adrian Swift, Pennaeth Cynnwys, Cynhyrchu a Datblygiad Channel 9: “Mae Naw yn falch iawn o groesawu dau sefydliad mor arwyddocaol i’r rhwydwaith: Jeopardy! un o gwisiau gorau’r byd a Stephen Fry, arwr ym myd darlledu. Gyda Stephen wrth y llyw, fe fydd Jeopardy! Awstralia yn cyflwyno cyffro pur y fformat annwyl hwn i wylwyr Awstralia”.

Dywedodd Sunil Patel, Prif Weithredwr Whisper: “Mae’n wych gweld llwyddiant parhaus Heopardy! a chael chwarae rôl yn nyfodol rhyngwladol y gyfres. Mae’n anrhydedd i Whisper North gyflwyno’r sioe i genhedlaeth newydd o wylwyr yn y DU ac Awstralia ac i gynulleidfa amser brig – wedi ei gyfwyno gan Stephen Fry.”

Mae Jeopardy! Awstralia yn gynhyrchiad Whisper North ar gyfer Channel 9. Y cynhyrchwyr gweithredol yw Kerri Reid, Tom McLennan a Stephen Fry. Mae Whisper North yn yn adran o gwmni cynhyrchu Whisper a gefnogir gan SPT.

Cynhyrchir sioe gwis wreiddiol yr UD gan Sony Pictures Television, Cwmni Adloniant Sony Pictures, a ddosberthir gan Paramount Global Content Distribution ynghyd â'r hawliau fformat.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.