WHISPER + BBC SPORT YN ENNILL RHAGLEN CHWARAEON ORAU YNG NGWOBRAU DARLLEDU 2023

Mae Whisper a BBC Sport wedi ennill Gwobr Rhaglen Chwaraeon Orau yng Ngwobrau Darlledu 2023 ar gyfer EURO Menywod 2022.

Cynhaliwyd y gwobrau, sydd yn ‘dathlu goreuon rhaglenni a sianeli Prydeinig’ ac hefyd yn ‘cydnabod cynnwys mwyaf arloesol y DU’, yng Ngwesty’r Grosvenor, Llundain, neithiwr.

Llwyddodd darllediad EURO Menywod 2022 drechu cystadleuaeth gref, megis ITV Racing, The Hundred a Monday Night Football ar Sky.

Cynhyrchodd Whisper a’r BBC ystod eang o gynnwys ar draws 31 gêm fyw a dros 100 o ddarlledu, gan greu sêr a modelau rôl o dîm Lloegr a thu hwnt, a rhoi rheswm i’r gynulleidfa deimlo gwerth i’w buddsoddiad.

Roedd y nifer o wylwyr a wyliodd pum gêm neu fwy ar y teledu ar draws y twrnamaint yn drawiadol (40%), nifer oedd yn debyg i sioeau adloniant blaenllaw fel Britain’s Got Talent (39%) a Bake Off (44%).

Cynyddodd cynulleidfaoedd teledu o 3.6M ar gyfer y gêm gyntaf (Lloegr v Awstria) i 17.4M ar gyfer y rownd derfynol (Lloegr v Yr Almaen), gyda 6M ar lwyfannau digidol, sy’n golygu mai hon oedd y gêm bêl-droed i fenywod a wyliwyd gan y nifer fwyaf erioed ar deledu’r DU.

Sunil Patel, Cyd-sylfaenydd a Phrif Weithredwr, Whisper: “Roedd yn wych cael rhannu’r daith a thalent anhygoel y Lionesses gyda’r gwylwyr haf diwethaf. Fe wnaethon ni ddechrau gweithio gyda Uwch Gynghrair y Menywod a’r Lionesses nôl yn 2017. Ers hynny, rydyn ni wedi bod wrth ein bodd yn chwarae rhan fach yn nhwf y gêm.

“Ar gyfer yr EURO, wrth weithio gyda’r Partneriaid BBC Sport, y bwriad oedd i ddarlledu’r stori yn ei chyfanrwydd, gyda llu o gamerâu crwydro yn dilyn cynnydd yr 16 tîm, criw yng ngwersyll Lloegr ac adrodd straeon arbenigol yn gyffredinol.

“Roedd y darllediadau’n cynnwys tîm cyflwyno amrywiol gan gynnwys Gabby Logan, Alex Scott, Ian Wright, Fara Williams, Jonas Eidevall, Laura Georges, Anouk Hoogendijk a Vicky Losada, cynnwys y tu ôl i’r llenni, eitemau gyda chwaraewyr arloesol ac enwau mawr o’r byd adloniant.

“Roedd y canlyniad yn foment hanesyddol i bêl-droed Lloegr ac yn foment arloesol i gêm y merched.”

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.