Mae Whisper yn falch iawn o gael eu henwebu am unarddeg o wobrau yng ngwobrau Broadcast Sport eleni, a gynhelir ar 3 Tachwedd, 2021.
Mae'r enwebiadau ar draws ystod o gategorïau, gan gynnwys y Cwmni Cynhyrchu Chwaraeon Gorau, tri enwebiad Sioe Adloniant Chwaraeon Gorau, a dau enwebiad Cynnwys Gwreiddiol Gorau. Mae'r rhestrau byr hefyd yn cwmpasu llawer o'r chwaraeon lefel uchel rydyn ni’n gweithio arnynt gyda’n Partneriaid, gan gynnwys Fformiwla Un, Y Gemau Paralympaidd, Rygbi a'r NFL.
Dyma’r holl enwebiadau:
Cynhyrchiad Cyfnod Clo Gorau: Fformiwla Un: Grand Prix Rwsia (2020) ar gyfer Channel 4
Cynhyrchiad Chwaraeon y Flwyddyn: Y Gemau Paralympaidd ar gyfer Channel 4
Pundit y Flwyddyn:Y Farwnes Tanni Grey-Thompson (Y Gemau Paralympaidd ar gyfer Channel 4)
Cyflwynydd Teledu'r Flwyddyn: Ade Adepitan (Y Gemau Paralympaidd ar gyfer Channel 4)
Cwmni Cynhyrchu Chwaraeon y Flwyddyn: Whisper
Cynnwys Gwreiddiol Gorau gan Ddeiliad Hawliau: The Ultimate Test ar gyfer Y Llewod (Whisper Cymru)
Cynnwys Gwreiddiol Gorau gan Ddeiliad Hawliau: Whistle Watch ar gyfer World Rugby
Rhaglen Adloniant Chwaraeon Gorau: The NFL Show ar gyfer y BBC
Rhaglen Adloniant Chwaraeon Gorau: NFL End Zone ar gyfer Channel 5
Rhaglen Adloniant Chwaraeon Gorau: Today in Tokyo ar gyfer Channel 4
Hysbyseb Chwaraeon y Flwyddyn: Women in Rugby ar gyfer World Rugby
Mae modd gweld y rhestr fer lawn yma