Mae Whisper wedi cyrraedd rhestr fer dwy o wobrau’r Sport Industry. Mae'r seremoni wobrwyo uchel ei pharch yn cael ei chydnabod ar draws yr holl ddiwydiant, ac mae’n dathlu 'y gwaith aruthrol a wneir y tu ôl i'r llenni yn y sector chwaraeon, gan anrhydeddu'r clybiau, y timau, y brandiau, yr asiantaethau a’r arloeswyr sy'n sicrhau bod y diwydiant yn parhau i symud ymlaen ac yn rhagori.’
Mae Whisper wedi cael eu henwebu ar gyfer y gwobrau canlynol:
Asiantaeth y Flwyddyn
Cyfres Cynnwys Gwrieddiol ar gyfer Whistle Watch gyda World Rugby
Sunil Patel, Prif Swyddog Gweithredol Whisper: "Rydyn ni’n hynod falch o gael ein henwebu ar gyfer gwobr Asiantaeth y Flwyddyn, a gwych yw gweld Whistle Watch yn parhau i gael cydnabyddiaeth am ei gynnwys gwreiddiol. Rydyn ni’n cystadlu yn erbyn talentau mawr yn y ddau gategori. Pob lwc i'r bawb sydd wedi eu henwebu ar draws y Gwobrau - rydyn ni’n edrych ymlaen at y seremoni!"
Gellir gweld y rhestr fer lawn yma.
Cynhelir y digwyddiad ar 12 Mai yn Evolution yn Llundain.
Mae Whisper wedi cyrraedd rhestr fer arall yn ddiweddar hefyd, ar gyfer gwobr y Rhaglen Chwaraeon Gorau yng Ngwobrau Broadcast 2022 am Y Gemau Paralympaidd gyda Channel 4. Enillodd wobr Cynhyrchiad Chwaraeon Gorau (Quadrennial) yng Ngwobrau Sport Broadcast 2021.