PENODI WHISPER YN DDARLLEDWR AR GYFER GORNEST PAUL V FURY

Mae Skill Challenge Entertainment wedi penodi Whisper i ddarparu’r Darllediad Ffrwd Byd o ornest hirddisgwyledig Jake Paul v Tommy Fury yn Diriyah ddydd Sul 26 Chwefror.

Y llynedd, Whisper wnaeth ddapraru’r Darllediad Ffrwd Byd o ail ornest Oleksandr Usyk v Anthony Joshua II, Rage on the Red Sea, a ddarlledwyd mewn dros 180 o wledydd.

Dechreuodd Jake Paul focsio yn 2018, ac roedd yn cystadlu’n broffesiynol ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ers hynny, mae’r Pro Boxing Association wedi ei osod ar y brig o ran bocswyr-ddylanwadwyr yn dilyn cyfres o ornesdau mawr a’i record o 6-0. Dyw Fury heb golli yn ei yrfa bocsio proffesiynol hyd yma ychwaith. Ac yntau’n hanner brawd i bencampwr pwysau trwm y byd, Tyson Fury, fe wnaeth Tommy drechu Jevgenijs Andrejevs yn ei ornesd broffesiynol gyntaf pan oedd yn 19 oed. Ei record yw 8-0.

Ar gyfer y digwyddiad hwn, bydd Whisper yn cyflwyno darllediad uchelgeisiol a difyr i gynulleidfaoedd ym mhob cwr o’r byd, gyda phartneriaid darlledu rhyngwladol sy’n cynnwys BT Sport Box Office yn y DU ac ESPN + PPV yn yr Unol Daleithiau.

Bydd Chapter 3 Graphics yn cyfoethogi’r digwyddiad gyda’u heffeithiau clyweledol trawiadol.

Mae tîm cynhyrchu Whisper yn cynnwys Pennaeth Chwaraeon Whisper, Pete Thomas, sydd wedi gweithio ar ornestau pencampwr y byd gydag Oleksandr Usyk, Joe Calzaghe, Amir Khan a Carl Froch. Yn ymuno ag ef mae'r Cynhyrchydd Gweithredol, John Curtis, sydd wedi treulio’r 15 mlynedd ddiwethaf ym myd bocsio yn gweithio ar ddigwyddiadau talu-i-wylio, a Bethan Evans, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Whisper. Bydd y tîm cyflawni yn cynnwys aelodau o'r DU, yn ogystal â chriw lleol.

Sunil Patel, Prif Swyddog Gweithredol Whisper"Dyma frwydr hirddisgwyledig, ac rydyn ni’n falch iawn o fod wedi cael ein dewis gan Skill Challenge Entertainment i gyflwyno'r Darllediad Ffrwd Byd, a hynny ar ôl i ni gyflwyno Usyk v Joshua yn llwyddiannus y llynedd. Mae'r ddau ymladdwr yma yn dalentau ifanc cyffrous, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gyfleu angerdd ac emosiwn y digwyddiad a chaniatáu i wylwyr deimlo'n rhan ohono." 

A hwythau’n adnabyddus am ddarparu rhaglenni chwaraeon ac adloniant heb ei sgriptio, mae Whisper ar hyn o bryd yn cynhyrchu rhaglenni Fformiwla Un, EURO 2022 y Merched, Y Gemau Paralympaidd, Criced Rhyngwladol, Rygbi Rhyngwladol a llawer mwy. Mae eu darllediadau’n cynnwys Bellator, Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair, New Zealand Cricket, Rygbi Merched a Phêl-droed Merched.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.