Mae EURO Menywod 2022, a gynhyrchwyd gan Whisper a BBC Sport, wedi ei enwebu ar gyfer BAFTA yng Ngwobrau Teledu BAFTA 2023.
Mae Gwobrau Teledu BAFTA yn ‘gwobrwyo’r gorau o ddarlledu teledu ar sgriniau Prydain’, gyda’r seremoni ar ddydd Sul 14 Mai. Fe fydd y noson yn cael ei ddarlledu ar BBC One am 6pm.
Sunil Patel, Cyd-sylfaenydd a Phrif Weithredwr, Whisper: “Roedd yn wych cael rhannu’r daith a thalent anhygoel y Lionesses gyda’r gwylwyr haf diwethaf. Fe wnaethon ni ddechrau gweithio gyda Uwch Gynghrair y Menywod a’r Lionesses nôl yn 2017. Ers hynny, rydyn ni wedi bod wrth ein bodd yn chwarae rhan fach yn nhwf y gêm.
“Ar gyfer yr EURO, wrth weithio gyda’r Partneriaid BBC Sport, y bwriad oedd i ddarlledu’r stori yn ei chyfanrwydd, gyda llu o gamerâu crwydro yn dilyn cynnydd yr 16 tîm, criw yng ngwersyll Lloegr ac adrodd straeon arbenigol yn gyffredinol.
“Roedd y darllediadau’n cynnwys tîm cyflwyno amrywiol gan gynnwys Gabby Logan, Alex Scott, Ian Wright, Fara Williams, Jonas Eidevall, Laura Georges, Anouk Hoogendijk a Vicky Losada, cynnwys y tu ôl i’r llenni, eitemau gyda chwaraewyr arloesol ac enwau mawr o’r byd adloniant.
“Roedd y canlyniad yn foment hanesyddol i bêl-droed Lloegr ac yn foment arloesol i gêm y merched.
“Mae’n rhywbeth arbennig iawn i gael ein enwebu ar gyfer BAFTA.”