Mae Whisper yn falch o gyhoeddi bod Jemma Goba wedi ymuno â Whisper fel Pennaeth Cynnwys Wedi’i Frandio a Digidol wrth iddyn nhw geisio ehangu eu cylch gwaith digidol ac wedi’i frandio yn 2022. Y llynedd, tyfodd Whisper o fod yn gwmni ag 80 o weithwyr i fod â thros 200 aelod o staff, gan ennill cytundebau digidol newydd gyda World Rugby ac UEFA.
Mae Jemma yn ymuno o Tanami, y cwmni cynhyrchu llwyddiannus y gwnaeth hi ei gyd-sefydlu yn 2013. Gwerthwyd Tanami yn 201,7 ond arhosodd Jemma gyda nhw fel Partner Rheoli yn ogystal â chymryd lle ar fwrdd The Leith Agency. Bu’r cwmni’n gyfrifol am greu cynnwys hysbysebu llwyddiannus ar gyfer cleientiaid fel Scottish Rugby, The Macallan, IHG a Brand Scotland.
Yn ei swydd newydd, bydd Jemma yn arwain tîm cynnwys wedi’i frandio Whisper; mae’r rhestr cleientiaid presennol yn cynnwys UBS, Red Bull, Barclays a Manchester City. Bydd hefyd yn annog twf digidol. Erbyn hyn mae gan Whisper dîm digidol â thros 25 aelod, ac maen nhw’n gweithio ar sawl cyfrif adnabyddus, gan gynnwys UEFA, World Rugby ac F1. Enillodd eu cyfres ddigidol, Whistle Watch, wobr y Cynnwys Gwreiddiol Gorau yng ngwobrau Sport Broadcast 2021.
O dan arweiniad Jemma, bydd Whisper yn ceisio adeiladu ar eu llwyddiannau ac ehangu i’r gofod masnachol, gan ddefnyddio eu profiad o adrodd straeon yn effeithiol er mwyn creu cynnwys cryf a chreadigol ar gyfer ymgyrchoedd brand, hysbysebion teledu a deiliaid hawliau.
Mae Jemma wedi gweithio gyda McCann a'r BBC yn y gorffennol, ac mae hi hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol ar Glwb Pêl-droed Hibernian. Bydd yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Gyfarwyddwr, Mark Cole, a chyda’r Cyfarwyddwr Masnachol a Phartneriaethau, Geoff Riding, er mwyn nodi cyfleoedd busnes newydd ac i ehangu sylfaen cleientiaid Whisper.
Dywedodd Sunil Patel, Prif Swyddog Gweithredol Whisper: "Mae Jemma yn llawn syniadau creadigol, ac mae ganddi awch i wneud y mwyaf o hunaniaeth brand er mwyn creu argraff, ac mae hynny’n cyd-fynd yn dda ag amcanion Whisper i ehangu ein timau cynnwys wedi’i frandio a digidol. Mae ei phrofiad mewn cynhyrchu cynnwys wedi’i frandio, yn ogystal â rheoli timau mawr, yn golygu y bydd hi'n ychwanegiad hynod werthfawr i'r tîm.”
Dywedodd Jemma Goba: "Rydw i wedi bod yn dilyn Whisper ers tro, ac mae'r ffordd maen nhw wedi cyrraedd safle mor flaenllaw ym maes cynhyrchu chwaraeon mewn cyfnod cymharol fyr wedi gnweud argraff fawr arnaf. Mae’r ffordd maen nhw'n ehangu i genres newydd yn eu hadran ddigidol yn drawiadol, felly mae'n amser gwych i ymuno â'r tîm a rhoi hwb i’w cynnwys wedi’i frandio i'r lefel nesaf."
Sefydlwyd Whisper yn 2010 gan y darlledwr Jake Humphrey, y Cynhyrchydd Sunil Patel a'r cyn-yrrwr F1 David Coulthard. Yn 2020, prynodd Sony Pictures Television gyfran leiafrifol yn y cwmni. Mae eu busnes darlledu chwaraeon yn cynnwys Criced Rhyngwladol, Women's Super League ac F1.