INSIDE MONACO: Y GYNULLEIDFA FWYAF AR GYFER RHAGLEN FFEITHIOL BBC TWO MEWN CHWE BLYNEDD

Neithiwr, gwyliodd 3.2 miliwn o bobl ran gyntaf Inside Monaco, cyfres ddogfen mewn tair rhan a gynhyrchwyd gan Whisper ar y cyd â Spun Gold Television. Darlledwyd y sioe ar BBC Two, gan gyrraedd cynulleidfa frig o 3.4 miliwn o wylwyr, y nifer fwyaf o wylwyr am 9pm ar draws holl deledu Prydain.

Roedd ffigurau gwylio'r sioe yn uwch o lawer na'r cyfartaledd o 1.2 miliwn ar gyfer slot 9pm BBC2, gan olygu mai Inside Monaco yw ail raglen fwyaf poblogaidd y sianel eleni. Denodd un o'r cynulleidfaoedd mwyaf yn ystod y chwe blynedd diwethaf ar gyfer comisiwn ffeithiol ar BBC Two.

An eye popping programme’ – The Mirror

If we’re going to dream about holidays we can’t take, we may as well ogle a destination and lifestyle we’d need a lottery win to experience.’ – Daily Express

An eye-rolling dose of escapism’ – The Guardian

This entertaining three-part documentary series immerses itself in the tiny principality of Monaco’ – The Mirror

Yn ogystal â hyn, rhaglen arall a gynhyrchwyd gan Whisper, Replay ’66, a ddarlledwyd ddydd Sul 7 Mehefin am 1.30pm i gofio buddugoliaeth Lloegr yng nghwpan y byd, oedd y rhaglen chwaraeon mwyaf poblogaidd y prynhawn hwnnw, gan gyrraedd cynulleidfa frig o 1.3 miliwn.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.