Sony Pictures Television yn Buddsoddi yn Whisper

Cyd-sylfaenwyr Whisper: David, Sunil a Jake
Cyd-sylfaenwyr Whisper: David, Sunil a Jake

Mae Sony Pictures Television ("SPT") wedi buddsoddi yn Grŵp Whisper, grŵp sy'n cynnwys Whisper, cwmni cynhyrchu chwaraeon byw a chynyrchiadau heb eu sgriptio, Chapter 3 Graphics ac East Media.

Sefydlwyd Whisper gan eu Prif Swyddog Gweithredol a’r enillydd Bafta, Sunil Patel, y darlledwr Jake Humphrey a’r cyn-yrrwr F1 a'r sylwebydd David Coulthard. Maen nhw’n cynhyrchu llu o sioeau adloniant chwaraeon uchelgeisiol, gan gynnwys darllediadau o gemau NFL, y Gemau Paralympaidd, Fformiwla Un, SailGP, Women’s Super League, Criced Rhyngwladol a’r W Series. Yn ddiweddar, maen nhw wedi llwyddo i gadw eu cytundeb Fformiwla Un â Channel 4, ac mae ganddyn nhw nifer o gynyrchiadau ychwanegol ar y gweill yn 2020, sydd eto i’w cyhoeddi.

Mae Whisper yn adnabyddus am eu gallu i asio adloniant gyda sylwebaeth olygyddol ac arbenigol ar chwaraeon. Maen nhw bellach yn un o enwau blaenllaw'r byd cynhyrchu chwaraeon, ac wedi llwyddo i newid tirwedd y byd chwaraeon ac adloniant digwyddiadau byw yn y broses. Mae'r buddsoddiad hwn yn cyd-fynd â strategaeth ehangach SPT o arallgyfeirio portffolio cynhyrchu'r grŵp, sydd wedi cynnwys lansio label creadigol sydd â ffocws ar ddiwylliant poblogaidd yn 2018, Human Media, ac ehangu ym maes rhaglenni plant trwy gaffael Silvergate Media ym mis Rhagfyr 2019.

"Mae hyn yn newyddion mawr i Whisper" meddai Sunil Patel, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Whisper. "Rydyn ni’n credu mai Adloniant yw Popeth, a Sony Pictures Television yw un o enwau mwyaf y byd adloniant.

"Chwaraeon yw craidd ein gwaith ni, a byddwn ni’n parhau i greu rhaglenni chwaraeon y gallwch chi ymgolli ynddyn nhw, ond mae gennym uchelgeisiau eraill hefyd, a gall y cam hwn ein helpu i’w gwireddu. Rydyn ni’n awyddus i dyfu'n rhyngwladol ac i ddatblygu fformatau a all helpu i adeiladu catalog Eiddo Deallusol cyffrous.

"Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth Wayne Garvie a'i dîm yn SPT. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda'n gilydd er mwyn ehangu cyrhaeddiad Whisper ac i archwilio cyfleoedd i ddatblygu syniadau newydd o amgylch eu hasedau presennol."

Dywedodd Wayne Garvie, Llywydd, Cynhyrchu Rhyngwladol, Sony Pictures Television, "Mae Whisper bellach yn un o’r enwau a glywir amlaf pan fo cwmnïau cynhyrchu’r DU yn cael eu trafod. Maen nhw wedi sefydlu eu hunain yn gyflym iawn fel arweinwyr arloesol ym maes cynnwys chwaraeon. Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni’n ymuno â Sunil, David, Jake a'r tîm er mwyn arwain Whisper i'r lefel nesaf."

Ychwanegodd y cyd-sylfaenydd David Coulthard, "Mae taith y cwmni ers ei sefydlu yn 2010 wedi bod yn rhyfeddol, ac mae'r cytundeb sylweddol hwn yn nodi pennod newydd i Whisper wrth i ni barhau i ehangu. Gall y cyfoeth o brofiad ac arbenigedd sydd gan Sony Pictures Television ein helpu'n uniongyrchol i fentro i feysydd newydd, a hynny gan barhau â'n darllediadau chwaraeon arobryn, sef yr hyn a arweiniodd at y cytundeb hwn yn y lle cyntaf.”

Mae'r cytundeb yn golygu na fydd Cronfa Indie Growth Channel 4 yn ymwneud â Whisper bellach. Yn 2015, prynwyd cyfran leiafrifol o’r cwmni gan y Gronfa, rhywbeth a roddodd sbardun angenrheidiol i’r cwmni.

Dywedodd Sunil: "Fydden ni byth lle'r ydyn ni heddiw oni bai am ymddiriedaeth a ffydd Channel 4 ynddom ni. Maen nhw wedi bod yn bartner ffantastig ac rydyn ni’n ddiolchgar am bopeth maen nhw wedi’i wneud dros y pedair blynedd a hanner diwethaf."

Lansiwyd Cronfa Indie Growth Fund gan Channel 4 yn 2014 er mwyn cefnogi sector creadigol y DU trwy gymryd cyfrannau lleiafrifol mewn busnesau bach a chanolig a’u helpu i gyrraedd y cam nesaf. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus dielw, mae'r holl elw o fentrau'r Gronfa yn cael ei ddefnyddio i ariannu'r gwaith o gyflawni dibenion darlledu gwasanaethau cyhoeddus Channel 4.

Dywedodd Alex Mahon, Prif Weithredwr Channel 4: "Ers ymuno â theulu Cronfa Indie Growth yn 2015, mae Whisper wedi mynd o nerth i nerth - gan bontio i faes cynhyrchu teledu yn llwyddiannus a chan adeiladu tîm hynod dalentog. Rydyn ni wedi mwynhau gweithio gyda Sunil, David a Jake ac rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol ac yng ngham nesaf eu datblygiad gyda Sony."

Imagine Capiral a weithredodd ar ran Grŵp Whisper yn ystod y trafodiad.

Ynglŷn â Sony Pictures Television

Mae Sony Pictures Television ("SPT") yn un o brif ddarparwyr cynnwys y diwydiant teledu, gan gynhyrchu, dosbarthu a chario rhaglenni ledled y byd, ym mhob genre ac ar gyfer pob llwyfan. Yn ogystal â rheoli un o lyfrgelloedd mwyaf y diwydiant o ran ffilmiau, sioeau teledu a fformatau arobryn, mae SPT hefyd yn gartref i fusnes cynnwys byd-eang ffyniannus, gan weithredu 24 o gwmnïau cynhyrchu mewn 12 gwlad, naill ai trwy gyd-fenter neu berchnogaeth lwyr, yn ogystal â sianeli llinellol a digidol ledled y byd. Un o gwmnïau Sony Pictures Entertainment yw SPT.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.