RHAGLEN RASIO CEIR MERCHED A GYNHYRCHWYD GAN WHISPER YN DENU DROS 1 MILIWN O WYLWYR TELEDU YN Y DU

Llwyddodd W Series, sef y bencampwriaeth rasio modur un sedd ryngwladol i ferched, i ddenu uchafbwynt anhygoel o 1 miliwn o wylwyr teledu yn y DU ar gyfer eu ras yn Silverstone y penwythnos hwn.

Whisper yw'r darlledwr ar gyfer W Series, ac ar gyfer pob ras y nhw sy’n cynhyrchu’r Ffrwd Byd a ddefnyddir gan ddarlledwyr yn rhyngwladol, gan gynnwys Sky Sports, sy'n darlledu pob ras a phob rhagbrawf yn fyw.

Roedd Channel 4 hefyd yn dangos darllediadau byw ac am ddim o'r Grand Prix Prydeinig a gynhaliwyd yn Silverstone y penwythnos diwethaf, gan olygu bod y ras wedi'i darlledu'n fyw ar Channel 4 a Sky am y tro cyntaf erioed, gan gyrraedd brig cyfunol o dros 1 miliwn o wylwyr teledu yn y DU.

Mae'r gynulleidfa record hon yn golygu mai dyma’r ras â mwyaf o wylwyr yn hanes y W Series, ac mae'n golygu mai’r penwythnos W Series yn Silverstone oedd y digwyddiad chwaraeon modur mwyaf poblogaidd ers 2014 ac eithrio F1.

Roedd dros 710k o wylwyr ar gyfartaledd wedi gwylio Jamie Chadwick (Jenner Racing, 24, DU) yn ennill ei chweched ras W Series yn olynol, gan barhau â’i dechrau perffaith i'r tymor.

Dywedodd Catherine Bond Muir (Prif Swyddog Gweithredol, W Series): "Roeddwm yn awyddus iawn i sicrhau mai 2022 oedd tymor mwyaf y W Series hyd yn hyn, ac rwy'n hynod falch ein bod wedi llwyddo yn hyn o beth, ond dydyn ni ddim wedi gorffen eto. Mae gennym uchelgeisiau mawr ar gyfer twf parhaus y W Series, ac mae cefnogaeth ein partneriaid darlledu yn golygu y gallwn ni gyflwyno rasio anhygoel i gynulleidfa fyd-eang sy'n ehangu trwy’r adeg a pharhau i ymdrechu i ysbrydoli cymaint o fenywod a merched â phosibl i fentro i fyd chwaraeon modur."

Mae W Series yn un o nifer o gampau merched a gynhyrchir gan Whisper; mae eu portffolio chwaraeon merched hefyd yn cynnwys pêl-droed (Cwpan yr FA, WSL, EURO 2022), rygbi, criced, bocsio ac MMA.

Roedd Whisper yn fyw trwy gydol y penwythnos diwethaf yn cynhyrchu rhaglenni Fformiwla Un ac W Series ar gyfer Channel 4, yn ogystal ag uchafbwyntiau Criced y BBC a Rygbi S4C.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.