WHISPER WEDI’U CYNNWYS AR RESTR LLEOEDD GORAU I WEITHIO BROADCAST 2020

Mae Whisper wedi’u cynnwys yn rhestr Lleoedd Gorau i Weithio Broadcast 2020 - y bedwaredd blynedd yn olynol iddyn nhw dderbyn yr anrhydedd.

Nod y cynllun hwn gan Broadcast yw adnabod a chydnabod y cyflogwyr gorau ym myd teledu, gan asesu pob agwedd ar gwmnïau, gan gynnwys arweinyddiaeth, cynllunio, diwylliant corfforaethol, amgylchedd gwaith, hyfforddiant a chyflogau.

Mae Whisper yn adnabyddus am eu diwylliant gwaith uchelgeisiol, amrywiol a chyfeillgar, a bellach mae ganddyn nhw dros 75 aelod tîm yn gweithio ar draws tair swyddfa yn Llundain, Caerdydd a Maidenhead.

Mae’r buddion a gynigir i staff yn cynnwys ffisiotherapi, hyfforddiant personol a sesiynau tylino am ddim, oriau hyblyg, brecwast a byrbrydau am ddim drwy'r dydd, ystod o ddigwyddiadau cymdeithasol, gweithgareddau chwaraeon wedi'u hariannu, a gwyliau ychwanegol dros y Nadolig. Hefyd, gellir cael mynediad at hyfforddwr bywyd a gorffen gwaith yn gynharach yn ystod yr haf (os gallwch chi adael Rustie, ci’r swyddfa, hynny yw!). Cafodd y swyddfa yn Llundain ei hehangu yn ddiweddar hefyd, i greu gweithle braf, golau a glân, gydag ardaloedd ar wahân i fwyta ac i weithio oddi wrth y ddesg.

Dywedodd Sunil Patel, Prif Swyddog Gweithredol Whisper: "Gwych yw dal ein gafael ar wobr Lleoedd Gorau i Weithio Broadcast, a hynny am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Rydyn ni’n gweithio'n galed i gynrychioli cymdeithas ar bob lefel, ac mae ein tîm amrywiol yn adlewyrchu'r byd ehangach ac mae ein ffigyrau yn rhagori ar dargedau'r diwydiant. Ein pobl yw craidd y cwmni, a nhw sy’n troi ein brwdfrydedd a’n huchelgais yn weithredoedd creadigol. Rydyn ni’n ymdrechu i ddenu ac i gadw'r personél gorau, ac yn ceisio gofalu amdanyn nhw y ffordd orau y gallwn."

Ar hyn o bryd, ffigyrau staffio Whisper yw bod 51% rhwng 20-34 oed, 48% yn fenywod, 15% o gefndir Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, 9% yn anabl a 9% LHDTC+. Mae hefyd yn Bartner i Brifysgol Royal Holloway ac mae'n cynnig cyfleoedd mentora, hyfforddiant a chyflogaeth i fyfyrwyr celfyddydau cyfryngau'r Brifysgol.

Dyma ychydig o’r adborth a roddwyd gan aelodau'r tîm i Leoedd Gorau i Weithio Broadcast: "Pwyslais gwirioneddol ar amrywiaeth", "Diwylliant cyfeillgar iawn", "Llawer o olau naturiol, bwyd a phlanhigion", "Cyfleoedd parhaus", "Arweinyddiaeth frwdfrydig", "Ymdrechu tuag at ragoriaeth" a "Pobl weithgar a chlên, sy’n dymuno llwyddiant i’w gilydd".

Mae cynyrchiadau presennol Whisper yn cynnwys Fformiwla Un, Women's Super League, Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched, NFL, Y Gemau Paralympaidd, Criced Rhyngwladol, SailGP a’r W Series. Mae'r cwmni hefyd ag adran adloniant brand ffyniannus.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.