Mae UKTV wedi cyhoeddi heddiw bod hoff sianel gomedi'r genedl, Gold, wedi comisiynu dwy raglen tair rhan arbennig o’r sioe boblogaidd Billy Connolly Does… (6x60’), a hynny yn dilyn llwyddiant y gyfres gyntaf a ddarlledwyd ym mis Mawrth 2022.
Gyda rhagor o fynediad unigryw at Billy yn ei gartref yn Florida, bydd y rhaglenni tair rhan a gynhyrchwyd gan Moonshine Features, sy’n rhan o grŵp Whisper, yn cael eu darlledu yn gynnar yn 2023 a 2024.
Yn Billy Connolly Does…The Decades, bydd y Big Yin yn teithio’n ôl trwy amser i edrych ar sut mae gwleidyddiaeth, enwogion, rhyw, teledu a phêl-droed wedi newid dros y 50 mlynedd diwethaf.
Dywedodd Billy Connolly: "Dwi wrth fy modd gyda'r gyfres yma, pwy wyddai mai’r gyfrinach wrth greu teledu da yw aros adref, bwyta bisgedi, yfed te a pharablu am y gorffennol?"
Bydd Billy Connolly Does…The Decades yn canolbwyntio ar y blynyddoedd hynny pan oedd Billy yn ei anterth. Y 70au - pan wnaethon ni ei gyfarfod am y tro cyntaf, yr 80au – pan gwympon ni gyd mewn cariad ag ef, a'r 90au – pan mai ef oedd un o allforion mwyaf gwerthfawr yr Alban.
Gan gymysgu atgofion personol Billy, newyddion a diwylliant poblogaidd y cyfnod, ynghyd â stand-yp anhygoel o'r archifau, bydd y gyfres hon yn tywys gwylwyr trwy fyd atgofion, a hynny yng nghwmni Billy a hanesion ei fywyd dros y blynyddoedd.
Dywedodd Mike Reilly, cyfarwyddwr cyfres cwmni Moonshine,: "Mae UKTV wedi bod yn wych o ran caniatáu i'r gyfres hon ffynnu gyda’i huchelgais syml, ac mae hynny’n dangos, waeth pwy ydych chi na faint yw eich oed chi, Billy yw'r cwmni gorau oll. Mae’n ddigrif, mae’n eich synnu, ac yn ddi-ffael bydd ganddo ryw hanes newydd doniol a fydd yn ddigon i’ch llorio."
Comisiynwyd Billy Connolly Does…The Decades ar gyfer UKTV gan Iain Coyle, pennaeth adloniant comedi, ac fe’i harchebwyd gan Gerald Casey, cyfarwyddwr sianel Gold. Richard Watsham yw’r cyfarwyddwr comisiynu, a Steve North yw’r rheolwr genre cyffredinol ar gyfer comedi ac adloniant. Y cynhyrchwyr gweithredol ar gyfer Moonshine Features yw Michelle Crowther a Mike Reilly, sy’n cyfarwyddo’r gyfres hefyd.
Dywedodd Iain Coyle: "Rydw i mor falch o gael bod yn rhan o’r gyfres hon. Mae Billy a'r bobl wych yn Moonshine wastad yn llwyddo i gynnig cipolwg hynod ddifyr a doniol ar feddwl ac atgofion digrifwr gorau’r genedl."
Ychwanegodd Gerald Casey: "Gwych yw cael rhagor o Billy Connolly ar Gold. Mae'r cyfresi newydd hyn yn mynd i fod yr un mor ddifyr ac agos atoch â’r gyntaf, ac rwy'n edrych ymlaen at ryddhau’r gyfres ac i wylwyr gael gwers hanes hynod o bleserus gan y Big Yin."