RHAGLEN DDOGFEN BEN STOKES I’W DANGOS AM Y TRO CYNTAF AR DRAWS Y BYD AR PRIME VIDEO AR 26 AWST

Cyhoeddodd Prime Video heddiw y bydd rhaglen ddogfen wreiddiol ar fywyd a gyrfa capten criced Lloegr, Ben Stokes, yn cael ei lansio mewn dros 240 o wledydd a thiriogaethau ledled y byd ddydd Gwener 26 Awst.

Crëwyd Ben Stokes: Phoenix from the Ashes gyda’r cyfarwyddwr a’r enillydd Oscar Sam Mendes (1917), sy'n ymddangos ar y sgrin mewn cyfres o gyfweliadau i drafod uchafbwyntiau ac isafbwyntiau gyrfa'r eicon criced. Cynhyrchwyd y rhaglen gan Whisper, ac mae’n adrodd hanes taith Ben, gan drafod ei lwyddiannau yng Nghwpan y Byd a’i gampau ar y cae yn Headingley yn ogystal â'i isafbwyntiau a afodd effaith bersonol enfawr, ac a berodd iddo orfod gadael y gêm am gyfnod.

Llwyddodd y criw i ddal eiliadau mwyaf personol a heriol Ben ar ffilm, gan gynnwys ei ymweliad olaf â’i dad oedd yn ddifrifol wael, a’i drafferthion gydag iechyd meddwl. Mae Ben yn trin a thrafod ei daith ar y sgrin gyda'r ffanatig criced Mendes, a oedd hefyd yn gynhyrchydd gweithredol ar gyfer y ffilm. Mae Ben Stokes: Phoenix from the Ashes yn cynnwys cyfweliadau agos-atoch gyda thad Ben, ei fam, ei wraig a'i blant ynghyd â ffrindiau, teulu, ei gyn gyd-chwaraewyr a’i wrthwynebwyr, gan gynnwys: Joe RootJofra ArcherNeil Fairbrother a’r diweddar Shane Warne.

Mae Ben Stokes: Phoenix from the Ashes  wedi'i chyfarwyddo gan Chris Grubb a Luke Mellows, gyda Sam Mendes, Mark Cole a Sunil Patel yn gynhyrchwyr gweithredol.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.