100K AR Y BLAEN! DARLLEDIADAU AR-LEIN S4C O UWCH-GYNGHRAIR GRŴP INDIGO, A GYNHYRCHWYD GAN WHISPER CYMRU, YN CAEL DECHRAU DA

Rhodri Lewis

Mae darllediadau S4C o bedair gêm gyntaf rygbi Uwch-gynghrair Grŵp Indigo, a ddarlledir yn fyw ar-lein ar nos Iau gan Whisper Cymru, wedi denu dros 100,000 o wylwyr ar sianeli digidol S4C.

Er bod y pandemig wedi tarfu ar y tymor hyd yma, mae gemau Uwch-gynghrair Grŵp Indigo a ddangosir yn fyw ar nosweithiau Iau ar S4C Clic, YouTube a Facebook, wedi bod yn denu cynulleidfaoedd iach.

Mae'r ffigyrau gwylio wedi pasio 108,000 ar gyfer y pedair gêm gyntaf, gyda'r cynnwys wedi’i wylio am gyfanswm o 11,399 awr.

Mae’r clipiau o bob gêm a ddangosir ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd wedi bod yn boblogaidd ar gyfrifon S4C Chwaraeon.

Lauren Jenkins sy'n cyflwyno darllediadau’r Uwch-gynghrair, gyda Rhys ap William a Phil Steele, cefnogwr brwd clybiau rygbi Cymru, yn rhan o’r tîm sylwebu.

Mae llu o gyn-chwaraewyr a chwaraewyr rhyngwladol presennol Cymru wedi ymuno i ddadansoddi gemau hefyd, gan gynnwys Ken Owens, Sioned Harries, James Hook, Nicky Robinson ac Andrew Coombs.

Dywedodd Lauren Jenkins: "Rydyn ni wedi gweld gornestau rhagorol yn Uwch-gynghrair Grŵp Indigo hyd yma, a sawl cais anhygoel, gydag un Rhodri Lewis yn gêm Aberafan yn erbyn Abertawe yn un o'r goreuon.

"Y gemau ar nos Iau yw dechrau'r penwythnos rygbi, ac mae eu gwylio o dan y llifoleuadau yn brofiad arbennig.

“Er bod y pandemig wedi tarfu ar y tymor braidd, mae hi’n ddyddiau cynnar, ac mae cymaint mwy o gemau i'w mwynhau rhwng nawr a diwedd y tymor."

Bydd y darllediadau byw o Uwch-gynghrair Grŵp Indigo yn parhau gyda gêm Glyn Ebwy v Casnewydd ddydd Iau 24 Chwefror, Abertawe v Llanymddyfri ddydd Iau 3 Mawrth a Phen-y-bont ar Ogwr v Pontypridd ddydd Iau 17 Mawrth. Pob un am 7:30pm.

Bydd uchafbwyntiau pob gêm hefyd i'w gweld ar y penwythnos dilynol ar sianel YouTube S4C.

Sut i wylio gemau Uwch-gyngrhair Grŵp Indigo ar-lein

Gallwch wylio’r gemau yn fyw ar chwaraewr S4C Clic ar unrhyw ddyfais clyfar neu gyfrifiadur drwy fynd i www.s4c.cymru/clic, neu drwy lawrlwytho Ap S4C Clic; o App Store ar ddyfais Apple, neu Google Play ar ddyfais Android. Os oes gennych deledu clyfar neu ddyfais teledu clyfar (fel Amazon Fire TV Stick), gallwch wylio'r gêm ar sianel YouTube S4C.

Bydd y gemau hefyd i'w gweld ar dudalen Facebook S4C Chwaraeon, yn www.facebook.com/s4cchwaraeon, tudalen Facebook Undeb Rygbi Cymru, www.facebook.com/welshrugbyunion, neu ar sianel YouTube S4C, yn www.youtube.com/s4c.

Gallwch wylio'r gemau gyda sylwebaeth Saesneg ar S4C Clic neu ar dudalen YouTube S4C.

Bydd angen creu cyfrif er mwyn defnyddio S4C Clic. Mae creu cyfrif yn hawdd ac nid yw’n costio dim.

Ewch i www.s4c.cymru/clic a chliciwch ar 'Cofrestrwch Nawr'. Yna bydd angen i chi roi eich enw a’ch cyfeiriad e-bost, dewis cyfrinair, a gwasgu 'Nesa'. Bydd hynny'n danfon e-bost cadarnhau i'ch cyfrif, a bydd angen i chi glicio ar y ddolen i gadarnhau eich cyfrif. Ar ôl cadarnhau, byddwch yn barod i wylio.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.