WHISPER WEDI’U HENWEBU AM WOBRAU NEWYDDIADURAETH CHWARAEON AM EU RHAGLENNI F1 A’R GEMAU PARALYMPAIDD

Mae Whisper wedi cael eu henwebu am ddwy wobr yng Ngwobrau Newyddiaduraeth Chwaraeon Prydain a fydd yn cael eu cynnal yn fuan.

Mae enwebiadau Whisper yn y categori Darlledu am eu darllediadau Fformiwla Un ar gyfer Channel 4 a’u darllediadau uchelgeisiol o Gemau Paralympaidd Tokyo 2020 gyda Channel 4.

Mae’r gwobrau’n ‘dathlu rhagoriaeth ymhlith awduron, ffotograffwyr, darlledwyr a golygyddion chwaraeon Prydain’.

Mae Whisper wedi’u henwebu ar gyfer y gwobrau canlynol: 

Darllediadau Digwyddiadau Byw Teledu/Digidol:  Gemau Paralympaidd Tokyo (Whisper ar gyfer Channel 4)

Sioe Deledu/Digidol: Fformiwla Un ar gyfer Channel 4 (Whisper ar gyfer Channel 4)

Gwych hefyd yw gweld yr anhygoel Ade Adepitan yn cael ei enwebu yng nghategori’r Cyflwynydd Chwaraeon Gorau, ef oedd yn arwain y rhaglen uchafbwyntiau ddyddiol, Today in Tokyo yn ystod Gemau Paralympaidd Tokyo 2020.

Cyflwynydd Chwaraeon – Ade Adepitan (Whisper ar gyfer Channel 4)

Gellir gweld rhestr fer Darlledu yn ei chyfanrwydd yma.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo gala yn y Park Plaza, Westminster Bridge, ddydd Llun 7 Mawrth 2022.

Pob lwc i bawb sydd wedi’u henwebu!

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.