Ein Heffaith
Ni fydd y byd yn gwella oni bai y bydd newid. Mae angen
egni a bwriad grymus i wneud gwahaniaeth.
HYRWYDDO
CYDRADDOLDEB

Fel cynhyrchwyr rhaglenni pêl-droed, criced, rygbi a chwaraeon moduro merched,
rydyn ni’n hyrwyddo cydraddoldeb o flaen y camera ac y tu ôl iddo.
HYRWYDDO
AMRYWIAETH

Nid yw ein rhaglenni yn osgoi mynd i’r afael â phynciau anodd, boed yn
rhywioldeb yn yr NFL, amrywiaeth o ran hil ym myd F1 a chydraddoldeb
mewn pêl-droed.
GWELLA
CYFLEOEDD

Fel cynhyrchwyr Y Gemau Paralympaidd ar gyfer Channel 4, rydyn ni’n
Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n gweithio gyda chynllyn Paras
Production Trainee Channel 4, ac mae gennym aelodau anabl dawnus
yn gweithio ar draws ein tîm.
ANNOG
NEWID
CADARNHAOL

Fe wnaethon ni gyd-gynhyrchu The Talk, yn ogystal â’i gyd-ariannu er mwyn
Gwneud Iddo Ddigwydd. Roedden ni’n gwybod ei fod yn gyfle i ddangos rhai
o’r materion y mae pobl ddu Prydain yn eu hwynebu yn ddyddiol, a’r canlyniad
oedd rhaglen ddogfen bwerus, addysgiadol a theimladwy.
Ar hyn o bryd, mae archfarchnadoedd Sainsbury’s yn defnyddio’r rhaglen
ddogfen fel rhan o’u hyfforddiant ar draws y cwmni