DILYN PENCAMPWRIAETH MERCHED EURO 2022, WHISPER + PÊL-DROED MERCHED HYD YMA…

Dros y 3 wythnos a hanner diwethaf rydyn ni wedi cynhyrchu 31 o gemau pencampwriaeth merched EURO 2022 gyda'r BBC, camp oedd yn gofyn am ymdrech enfawr gan bob aelod o’r tîm, boed yn rhedwyr, yn weithredwyr camerâu, yn gynhyrchwyr, yn olygyddion, yn gyfarwyddwyr neu’n dalent.

Denodd y bencampwriaeth ei chynulleidfa fwyaf erioed, gyda 17.4M o bobl yn y DU wedi gwylio'r rownd derfynol, gan olygu mai hon oedd y gêm bêl-droed merched â’r nifer fwyaf o wylwyr erioed ar deledu'r DU a'r rhaglen â’r nifer fwyaf o wylwyr yn y DU yn 2022 hyd yma.

Dyma Brif Swyddog Gweithredol Whisper, Sunil Patel, yn trafod agwedd Whisper tuag at bêl-droed merched hyd yma.

"Mae’r fuddugoliaeth hanesyddol neithiwr yn cloi mis hanesyddol o gemau a darllediadau, a ddarparwyd gan y BBC gyda Whisper.

"Yn 2016, amlinellodd Whisper weledigaeth glir ar gyfer targedu chwaraeon merched yn gyffredinol. Nid cynhyrchu rhaglenni chwaraeon merched yn unig oedd y targed, ond newid sut maen nhw’n cael eu cynhyrchu. Roedden ni eisiau ei ddyrchafu a'i ddathlu.

"Dyw hi ddim wedi bod yn hawdd. Yn aml, mae’r cyllidebau yn fychan, ac mae'r gefnogaeth yn gallu amrywio. Fodd bynnag, rydyn ni wedi buddsoddi bob tro, hyd yn oed os nad oedd yn gwneud synnwyr masnachol i'r busnes.

"Rwy’n cofio dyddiau cynnar ein darllediadau FA a WSL, pan oedd cyllidebau'n dynn a'r isadeiledd yn heriol. Pan fyddwch chi'n dechrau o sefyllfa o’r fath, rydych chi wir yn gwerthfawrogi’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud gyda'n gilydd.

"Ddoe, a thrwy gydol y mis diwethaf, roeddwn i’n teimlo fel ein bod wedi dod yn agos at gyrraedd y targed a osodwyd yn 2016. Cynhyrchu pencampwriaeth a gipiodd galonnau a meddyliau'r genedl. Gwerthoedd cynhyrchu cystal â phencampwriaethau mwyaf y byd.

"Ond yng nghanol y dathlu mae yna gyfleoedd i ddysgu hefyd. Waeth pa mor brofiadol ydyn ni, mae yna wastad le i wella ac i dyfu.

"Clod enfawr i'r BBC am roi cystal cefnogaeth i EURO ac i Whisper. Mae eraill hefyd yn haeddu clod, Channel 4 yn 2017 yn enwedig.

"Mae'n siŵr y bydd yr uchafbwynt o 17.5m ar BBC One a'r 6m ychwanegol ar-lein a wyliodd y rownd derfynol yn hawlio'r penawdau - dyna ddangos cefnogaeth i’r Lionesses aruthrol! Am garfan o fodelau rôl gwych.

"Fel y dywedodd Gabby Logan neithiwr, 'Os ydych chi’n meddwl mai dyma’r diwedd, dyw ond megis dechrau'. Rydyn ni wedi bod yn rhan o hanes, dyma ddechrau rhywbeth arbennig ac mae wir yn teimlo fel mai ond dechrau ydyn ni.

"Diolch i'n tîm cynhyrchu, i’r dalent ar yr awyr, i’r gweithwyr llawrydd, i’n partneriaid, i’r BBC, i’r Lionesses ac i’r gwylwyr am wneud Haf '22 yn un i'w gofio.

"Am gyfnod gwych i Chwaraeon Merched. Rydyn ni’n ofnadwy o falch o fod yn rhan fach ohono."

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.