WHISPER YN PENODI ROISIN THOMAS YN BRIF SWYDDOG GWEITHREDU AC YN GWNSLER CYFFREDINOL

Mae Whisper yn falch o gyhoeddi bod Roisin Thomas wedi ymuno â'r tîm fel Prif Swyddog Gweithredu a Chwnsler Cyffredinol.

Mae Roisin yn ymuno o gwmni Fremantle, lle bu'n Gyfarwyddwr Datblygu Corfforaethol. Cyn hynny bu’n Brif Swyddog Gweithredu yn Banijay Rights, gan weithio yno yn ystod yr uniadau Zodiak/Banijay ac Endemol/Banijay. Mae hi hefyd wedi bod yn Bennaeth Staff Zodiak Media, a threuliodd bum mlynedd fel Uwch Gydymaith gyda’r cwmni cyfraith cyfryngau blaenllaw, Olswang.

Bydd profiad sylweddol Roisin yn gymorth i Whisper wrth iddynt gyflawni eu strategaeth twf, a bydd hefyd yn darparu arweinyddiaeth a goruchwyliaeth ar draws gweithrediadau a materion busnes a chyfreithiol. Bydd yn aelod o uwch dîm rheoli'r cwmni ac yn adrodd i'r Prif Swyddog Gweithredol, Sunil Patel.

Ffocws allweddol arall i Roisin fydd datblygiad parhaus diwylliant Whisper, a defnyddio’u platfform i wneud newid cadarnhaol. Mae Whisper yn gwmni uchelgeisiol, cyfeillgar, a brwdfrydig sydd ag ystadegau Amrywiaeth a Chynhwysiant sy’n well o lawer na safonau'r diwydiant. Maen nhw’n esblygu eu hamgylchedd gwaith a'u diwylliant yn barhaus, ac mae hynny wedi arwain at gael eu cydnabod fel un o Leoedd Gorau i Weithio Broadcast bum gwaith.

Dywedodd Sunil Patel: "Dwi'n falch iawn o weld Roisin yn ymuno â Whisper. Bydd ei phrofiad mewn materion cyfreithiol a busnes mewn cwmnïau cyfryngau mawr, yn ogystal â'i meddwl masnachol a strategol, yn gaffaeliad anhygoel i'n tîm wrth i ni barhau i ganolbwyntio ar dyfu yn y ffordd gywir.

"Hoffwn ddiolch i Juli Porter, ein cyn Brif Swyddog Gweithredu, am ei holl waith anhygoel dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae hi wedi bod yn rhan fawr o stori Whisper hyd yn hyn a bydd colled fawr ar ei hôl. Rydyn ni’n dymuno'r gorau iddi yn ei hymdrechion nesaf."

Dywedodd Roisin Thomas: "Mae Whisper yn fusnes sydd â diwylliant gwych, llais gwahanol, mae ganddynt uchelgais enfawr a phobl wirioneddol wych. Mae ymuno â'r cwmni mewn cyfnod mor dyngedfennol yn gyffrous iawn ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Sunil a'r tîm cyfan i gyflawni'r cam nesaf o dwf."

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.