WHISPER YN PENODI PETE THOMAS YN BENNAETH CHWARAEON

Mae Whisper yn falch o gadarnhau y bydd Pete Thomas yn ymuno â'r cwmni fel Pennaeth Chwaraeon ddydd Llun 31 Ionawr, gan atgyfnerthu eu tîm cynhyrchu chwaraeon dan arweiniad Mark Cole a than oruchwyliaeth eu Prif Swyddog Gweithredol, Sunil Patel.

Mae gan Pete dros 15 mlynedd o brofiad ym maes darlledu chwaraeon, gan gynnwys pêl-droed yr Uwch-gynrhair, Pêl-droed Merched, Cynghrair y Pencampwyr UEFA, yr NFL a Rygbi, ac mae mewn sefyllfa berffaith i arwain a datblygu portffolio chwaraeon llwyddiannus Whisper.

Mae Pete yn ymuno o Noah Media Group, lle bu’n cynhyrchu a chyfarwyddo nifer o raglenni dogfen gan gynnwys Finding Jack Charlton. Enwebwyd y rhaglen am wobr y Rhaglen Ddogfen Chwaraeon Orau yng Ngwobrau Grierson ac yng ngwobrau Broadcast, ac enillodd Wobr Dewis y Golygydd yng Ngwobrau Broadcast Sport 2021.

Roedd hefyd yn rhan hollbwysig o'r tîm a greodd The Last Leg ac roedd yn Uwch Gynhyrchydd ar ddarllediadau C4 o’r Gemau Paralympaidd yn gynharach eleni, sy'n addas iawn i Whisper, cynhyrchwyr Y Gemau Paralympaidd. Enillodd darllediadau Whisper o gemau 2020 wobr Cynhyrchiad Chwaraeon Gorau (Quadrennial), yng Ngwobrau Broadcast Sport 2021.

Yn ogystal â chynhyrchu rhaglenni byw o ddigwyddiadau chwaraeon mawr, gan gynnwys Criced Rhyngwladol, y Women’s Super League a Fformiwla 1, mae gan Whisper adran rhaglenni chwaraeon heb ei sgriptio hefyd, gan gynnwys tri phrosiect cyffrous ar y gweill gyda darlledwyr a ffrydwyr adnabyddus. Bydd talent a phrofiad Pete yn allweddol wrth reoli cyfeiriad golygyddol a chreadigol allbwn chwaraeon Whisper.

Dywedodd Mark Cole: "Byddai llawer yn eiddigeddus o gredydau cynhyrchu Pete a’i brofiad helaeth mewn chwaraeon byw, rhaglenni adloniant a rhaglenni dogfen, felly rydyn ni’n falch iawn ei fod wedi ymuno â ni i arwain ein tîm chwaraeon. Mae'n gwybod sut i greu ffilmiau y gall cynulleidfaoedd eu caru ac ymgolli ynddynt, ac mae wedi cynhyrchu cynnwys arbennig ar gyfer ITV Sport, BBC, C4, FIFA a BT Sport. Mae gan Pete brofiad gwirioneddol o arwain a datblygu timau, felly bydd yn ychwanegiad gwych ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ei groesawu ddiwedd mis Ionawr."

Dywedodd Pete Thomas: "Dwi’n edrych ymlaen at gwrdd â phawb ac i fwrw ati gyda’r broses greadigol gyda'r tîm yn Whisper. Mae digwyddiadau chwaraeon yn cynnig drama heb-ei-ail yn ogystal â rhai o’r eiliadau mwyaf cofiadwy o adloniant ar y teledu. Mae Whisper yn gwybod sut i gyfleu hynny a sut i adrodd y straeon sydd angen eu hadrodd. Mae eu darllediadau arbennig o'r Gemau Paralympaidd, y cynulleidfaoedd maen nhw’n eu denu gyda’r WSL, a'r uchelgais sydd ganddynt yn eu darllediadau F1 yn ysbrydoledig, ac rwy'n falch o gael gweithio gyda grŵp mor dalentog o bobl."

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.