Mae Whisper yn falch iawn o gyhoeddi bod Estelle Chijarira wedi ymuno fel eu Pennaeth Pobl newydd. Bydd Estelle yn helpu Whisper i wella eu hamgylchedd gwaith ac i gynnal yr arferion gwaith gorau posibl wrth iddyn nhw barhau i ehangu.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae Whisper wedi tyfu o fod yn gwmni o 80 o bobl i fod â mwy na 200 aelod o’r tîm, ac maen nhw’n canolbwyntio ar gynnal eu diwylliant cynhwysol ac amrywiol yn ogystal â mynd ati i ddysgu ac i wella. Bydd Estelle yn manteisio ar ei phrofiad wrth iddi helpu Whisper i gyflawni hyn, gan ddatblygu, cefnogi a hyfforddi aelodau presennol y tîm yn ogystal â helpu i ddenu talent newydd.
Mae Estelle yn ymuno â Whisper o Ofcom, lle bu'n gweithredu nifer o weithdrefnau a pholisïau pobl a arweiniodd yn uniongyrchol at Ofcom yn cael eu cydnabod fel un o'r 50 Lleoedd Gorau i Ferched Weithio yn ôl y Times ar ddau achlysur. Un o brif amcanion Estelle fydd adeiladu ar gyfoeth Whisper o ran staff anabl, staff benywaidd, a staff o amrywiaeth o gefndiroedd ethnig, gan ganolbwyntio ar benodiadau creadigol a golygyddol.
Yn Whisper, bydd Estelle yn cael y dasg o weithredu’r newidiadau a argymhellwyd yn ddiweddar gan adborth o broses Lleoedd Gorau i Weithio Broadcast. Mae Estelle wedi cyflawni sawl rhaglen yrfaoedd a datblygu ar gyfer staff. Mae ganddi gyfoeth o brofiad o ran deddfwriaeth Adnoddau Dynol, llywodraethu ymgysylltu â gweithwyr, gwella prosesau a chydymffurfio rheoleiddiol. Bydd yn adrodd i'r Prif Swyddog Gweithredol, Sunil Patel, ac yn aelod o Uwch Dîm Rheoli Whisper.
Dywedodd Sunil Patel, Prif Swyddog Gweithredol Whisper : "Gwych yw croesawu rhywun o safon Estelle i ymuno â'n tîm. Mae ei gweledigaeth ar gyfer rheoli, datblygu a chefnogi twf y tîm yn ysbrydoledig ac mae'n wych ei chael hi ar y bwrdd ar gyfer cam nesaf ein datblygiad.
Yn ogystal â'n cred mai Adloniant yw Popeth, rydyn ni’n awyddus i gael Newid Sy’n Cael Effaith Gadarnhaol - ffocws rydyn ni am gynnal trwy’r adeg yn fewnol yn ogystal ag allanol gyda’n cynyrchiadau."
Dywedodd Estelle : "Mae llawer o bethau anhygoel yn digwydd yma yn Whisper ac rwy'n falch o fod yn rhan ohono. Rwy'n edrych ymlaen at gael effaith gadarnhaol ac at wneud trawsnewidiadau ystyrlon mewn partneriaeth â holl dimau Whisper".