Fel cwmni sydd ar flaen y gad o ran cynhyrchu rhaglenni chwaraeon merched, mae Whisper yn falch iawn o ennill cytundeb y BBC i gynhyrchu EURO 2022 Merched UEFA.
Bydd Whisper a'r BBC yn cyflwyno rhaglenni o bencampwriaeth yr EUROs yn Lloegr sy’n wirioneddol uchelgeisiol a chynaliadwy, a bydd yn cynnwys darllediadau teledu byw ar y BBC ac ar iPlayer o bob un o'r 31 gêm. Bydd holl gemau’r gwledydd cartref, y ddwy rownd gynderfynol a'r rownd derfynol yn cael eu darlledu ar BBC One ac ar BBC iPlayer.
Mae Whisper eisoes yn cynhyrchu’r FA Women’s Super League a Chwpan FA y Merched ar gyfer y BBC, yn ogystal â darparu cynnwys digidol ar draws Chynghrair y Pencampwyr Merched UEFA. Byddant yn manteisio ar y perthnasoedd allweddol hyn wrth geisio darparu creadigrwydd ac uchelgais sy'n gweddu brand Match of the Day y BBC.
Mae Whisper, fel maen nhw wedi’i wneud â sawl un o’u cynyrchiadau eraill, wedi ymroi i sicrhau bod o leiaf 50% o’i dîm cynhyrchu yn ferched, gan gynnwys Jemma Archer fel Golygydd, Kay Satterley fel Gweithredwr Cynhyrchu, Bethan Evans fel Cyfarwyddwr Cynhyrchu a Kirstie Bennett fel Arweinydd Creadigol. Bydd y tîm yn cael ei oruchwylio gan Reolwr Gyfarwyddwr Whisper, Mark Cole.
Lloegr fydd yn dechrau’r bencampwriaeth gyda’u gêm yn erbyn Awstria ar 6 Gorffennaf, 2022 yn Old Trafford, a bydd y rownd derfynol yn cael ei chwarae yn Wembley ar 31 Gorffennaf. Bydd Gogledd Iwerddon yn dechrau eu hymgyrch hanesyddol ddiwrnod yn ddiweddarach gyda’’u gêm yn erbyn Norwy.
Dywedodd Mark Cole: "Mae'n flwyddyn enfawr i chwaraeon merched, ac mae’n wych gweld Whisper wrth graidd un o ddigwyddiadau mwyaf yr haf. Mae gennym angerdd dros bêl-droed merched, ac mae gweithio mewn partneriaeth â'r BBC i gyflwyno sylw gafaelgar o ddigwyddiadau a fydd yn uno'r genedl yn gyffrous iawn. Rydyn ni’n gobeithio'n fawr y bydd ein ffilmiau creadigol, ein dawn adrodd straeon, a'n dulliau darlledu arloesol yn arwain at raglenni difyr ac yn sicrhau y bydd y BBC wrth galon gŵyl bêl-droed a allai ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf."
Mae Whisper yn creu darllediadau chwaraeon merched arloesol y tu hwnt i bêl-droed hefyd, gan gynnwys Rygbi'r Undeb, Criced, Cyfres W a'r Gemau Paralympaidd, a chant eu cyflwyno gan un o dimau mwyaf amrywiol y diwydiant.
Mae ymroddiad y BBC i chwaraeon merched yn drawiadol, rhywbeth a gaiff ei arddangos gan eu cytundeb nodedig i ddarparu darllediadau teledu byw o’r FA Women’s Super League ochr yn ochr â Chwpan FA y Merched, ynghyd â’u gwasanaeth pêl-droed merched helaeth ar lwyfannau radio a digidol.