WHISPER YN CYFLWYNO FFILM HYRWYDDO SINEMATIG AR GYFER USYK V JOSHUA 2, RAGE ON THE RED SEA

Mae Whisper wedi cynhyrchu a chyflwyno ffilm ddramatig er mwyn hyrwyddo’r ornest pwysau trwm hir ddisgwyliedig rhwng Oleksandar Usyk ac Anthony Joshua a fydd yn cael ei chynnal yn Jeddah yn hwyrach yn y mis.

Ar ddydd Sadwrn 20 Awst yn Jeddah, Saudi Arabia, bydd Usyk, pencampwr pwysau trwm yr WBA, yr IBF a’r WBO, yn brwydro i gadw ei deitl yn erbyn Joshua, sydd wedi bod yn bencampwr pwysau trwm ddwywaith yn y gorffennol ac wedi ennill medal aur Olympaidd, mewn ailornest o’r enw Rage on the Red Sea.

Mae'r ffilm hyrwyddo yn dilyn paratoadau'r ddau focsiwr, adref yn ogystal ag yn Jeddah, a daw’r ffilm i ben yn ardal Al-Balad yr hen dref hanesyddol, gyda’r ddau yn dod wyneb yn wyneb, gyda thros 300 o bobl leol wedi ymgynnull i’w gwylio.

Cynhyrchwyd y ffilm gan dîm adloniant wedi’i frandio Whisper ar gyfer Skill Challenge Entertainment a chafodd ei ffilmio mewn sawl lleoliad yn y DU ac yn Jeddah.

Roedd y tîm yn awyddus i’r prosiect hwn gyfleu bwrlwm grymus brwydr fwyaf y flwyddyn, yn ogystal ag arddangos lleoliad unigryw Jeddah ar gyfer yr ornest. Gan weithio gyda Dominic O’Riordan, un o gyfarwyddwyr mwyaf blaenllaw'r diwydiant sydd wedi creu ffilmiau masnachol i Adidas, BAFTA, Nike a Visa ymysg eraill, mae'r ffilm hyrwyddo yn dod â chynnwrf chyffro'r frwydr yn fyw.

Gan weithio ar y cyd ag asiantaethau creadigol a chynhyrchu lleol, roedd Whisper yn arwain criw cynhyrchu â thros 60 aelod, gan ddefnyddio camerâu Sony Venice gyda lensys anamorffig Panavision B er mwyn sicrhau canlyniadau sinematig.

“Roedd gweithio gyda Whisper a Skill Challenge Entertainment i greu'r ffilm hon yn brofiad anhygoel," yn ôl Dominic O'Riordan. "Pan ddarllenais y sgript gychwynnol, roeddwn yn llawn cyffro o feddwl y byddwn yn cael AJ ac Usyk i wynebu ei gilydd yn yr olygfa olaf. Mae hyn yn brin iawn mewn ffilmiau hyrwyddo bocsio gan eich bod fel arfer yn gorfod ffilmio’r bocswyr ar wahân. Roedd y cyfle i ddal y foment honno mewn lleoliad mor sinematig yn rhywbeth cyffrous iawn."

Ychwanegodd Jemma Goba, Pennaeth Adloniant Wedi’i Frandio a Digidol Whisper: "Mae'n gyfnod cyffrous i'r tîm adloniant wedi’i frandio yn Whisper. Rydyn ni wedi gweithio ar brosiectau anhygoel yn barod eleni, ac wedi cydweithio â phobl hynod dalentog, a gwych oedd gallu dod â thîm cystal at ei gilydd ar gyfer y ffilm hon. Ein nod yn oedd cyfleu drama a chyffro’r ornest, ynghyd ag arddangos dinas hanesyddol a hardd Jeddah, ac rwy'n falch iawn o'r hyn a gyflawnwyd gennym."

Dan arweiniad Jemma Goba, mae Whisper yn ehangu cylch gwaith masnachol y cwmni, gan ddefnyddio ein profiad o adrodd straeon grymus er mwyn creu cynnwys cryf a chreadigol ar gyfer ymgyrchoedd brandio, hysbysebion teledu ac ar gyfer deiliaid hawliau.

Mae tîm arobryn Whisper eisoes yn gweithio gyda chleientiaid fel UBS, Red Bull, Barclays, Peloton, Manchester City, a gwnaeth eu gwaith â World Rugby, Whistle Watch, enill y wobr am y Cynnwys Gwreiddiol Gorau yng Ngwobrau Darlledu Chwaraeon 2021.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.