WHISPER YN AGOR WHISPER NORTH DAN ARWEINIAD CYN-GYFARWYDDWR ADLONIANT Y GOGLEDD ITV

Mae Whisper wedi agor Whisper North, adain adloniant newydd o fewn Grŵp Whisper.

Mae'r ganolfan ranbarthol newydd wedi’i lleoli ym Manceinion ac yn cael ei harwain gan Reolwr Gyfarwyddwr Whisper North, Tom McLennan.

Mae Tom yn ymuno â Whisper o ITV Entertainment, lle bu'n Gyfarwyddwr Adloniant ar gyfer y Gogledd (University ChallengeJudge RinderYou've Been Framed). Yn ymuno ag ef mae'r Prif Weithredwr Cynhyrchu a Datblygu Anna Andrews, gynt o adran Cynhyrchu a Datblygu ITV Studios Entertainment.

Mae Whisper North eisoes wedi sicrhau datblygiadau wedi’u hariannu gan dair sianel wahanol, ynghyd â pheilot ar gyfer darlledwr arall sy'n cael ei gynhyrchu gan Whisper ar hyn o bryd ac sydd â chefnogaeth sylweddol.

Yn ogystal â chynhyrchu fformatau adloniant, bydd Whisper North yn gweithredu fel swyddfa ranbarthol ar gyfer cynyrchiadau chwaraeon Whisper o dan arweiniad Mark Cole, ac mae mewn sefyllfa dda i atgyfnerthu cysylltiadau Whisper gyda BBC Sport yn Salford a Channel 4 Sport yn Leeds.

Dywedodd Tom McLennan: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â Grŵp Whisper yn ystod cyfnod o dwf anhygoel. Mae Whisper yn gwmni gwirioneddol ddeinamig ac uchelgeisiol, mae eu gwerthoedd yn cyd-fynd â fy ngwerthoedd i, ac mae'r gefnogaeth, y caredigrwydd, a'r agwedd gadarnhaol rydyn ni wedi’i weld gan bawb yn y busnes wedi bod yn ysbrydoledig.

"Dwi wedi gweithio gyda thalent anhygoel yn y Gogledd dros yr 20 mlynedd diwethaf, a dwi’n edrych ymlaen at eu cyflwyno i Whisper ac i rai o'r syniadau mawr sydd gennym ni ar y gweill.

"Mae Whisper wedi teimlo fel cartref i mi a'r tîm o’r dechrau, ac mae agor swyddfa yn y Gogledd wir yn fraint."

Dywedodd Sunil Patel: "Mae'n wych cael croesawu Tom, Anna a'u tîm i Whisper, ac mae’n deg dweud nad ydyn nhw wedi oedi dim cyn dechrau arni!  

"Rydyn ni'n awyddus i Whisper North efelychu'r cynnydd a wnaed gyda Whisper Cymru. Ers agor yn 2019, rydyn ni wedi buddsoddi mewn talent leol, wedi datblygu cyfleusterau a swyddi staff newydd ac wedi gweld twf o 50%.

"Mae cysylltiadau a phrofiad sylweddol Tom yn dipyn o gaffaeliad, a bydd yn gymorth mawr wrth sefydlu presenoldeb cryf yng Ngogledd Lloegr, rhywbeth sydd wedi bod yn ffocws i ni ers peth amser."

Mae Whisper wedi cael eu penodi'n Ddarlledwr ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd Rygbi'r Gynghrair, sydd i’w chynnal yn 2022 ar ôl i’r gystadleuaeth gael ei chanslo yn 2021 yn sgil COVID. Bydd y bencampwriaeth yn cael ei chynnal ar draws Gogledd Lloegr yn bennaf.

Ar hyn o bryd mae cylch gwaith chwaraeon Whisper yn cynnwys Fformiwla Un, Y Gemau Paralympaidd, Rygbi Rhyngwladol, Criced Rhyngwladol, Pêl-droed Merched a Chwaraeon Modur Merched. Mae eu hadran heb ei sgriptio yn ehangu hefyd, ac yn cynnwys Inside Monaco (BBC), The Talk (C4), Black and Proud (C4) a Jimmy Tarbuck: The Laughs Are On Me (C5), ymysg eraill.  

Bellach mae Grŵp Whisper yn cynnwys Whisper, Whisper Cymru (Caerdydd), Whisper North (Manceinion), Whisper West (Maidenhead), Whisper Australasia (Auckland), Chapter 3 Graphics (Llundain), East Media (Llundain) a Moonshine Features (Llundain).

Sefydlwyd y cwmni gan Brif Swyddog Gweithredol Grŵp Whisper, Sunil Patel, y darlledwr Jake Humphrey a’r cyn-yrrwr F1 David Coulthard.

Bu Whisper yn derbyn cefnogaeth gan Gronfa Twf Channel 4, cyn gadael yn 2020 ar ôl buddsoddiad gan Sony Pictures Television.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.