UEFA YN PENODI WHISPER YN BARTNER CYNHYRCHU CYNNWYS DARLLEDU A DIGIDOL

Vagner Love

Yn gynharach eleni, penodwyd Whisper yn bartner cynhyrchu cynnwys darlledu a digidol UEFA, i greu cynnwys digidol a chynnwys darlledu i wylwyr ar draws y byd fel rhan o gytundeb sawl blwyddyn.

Gyda’u cred mai ‘Adloniant yw Popeth’, Whisper fydd yn creu’r gyfres adnabyddus UEFA Champions League Magazine Show, yn ogystal â chreu cynnwys trawiadol, diddorol ac addysgiadol ar gyfer sianeli digidol aml-blatfform UEFA i gynulleidfaoedd ar draws y byd.

Cyn hyn, bu Whisper yn creu cynnwys a oedd yn ymwneud â chystadlaethau timau cenedlaethol; ond bellach mae hyn wedi’i ehangu er mwyn cwmpasu holl bêl-droed clwb Ewrop, gan gynnwys Cynghrair y Pencampwyr UEFA, Cynghrair Europa UEFA a chynghrair newydd Cyngres Ewropa UEFA, yn ogystal â Chynghrair y Cenhedloedd UEFA a gemau rhagbrofol Cwpan Ewrop a Chwpan y Byd.

Mae hyb creadigol canolog, o'r enw Canolfan Ddarlledu UEFA, wedi'i sefydlu ym Mhencadlys Whisper yn Kew, dan oruchwyliaeth a rheolaeth yr Arweinydd Gweithrediadau Bethan Evans, sydd â phrofiad o reoli gweithrediadau darlledu a chynhyrchu ar gyfer ALTEC.

Dan oruchwyliaeth Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper, Mark Cole, cyn-Bennaeth Pêl-droed MOTD y BBC, a Phrif Swyddog Gweithredol Whisper, Sunil Patel, arweinir tîm cynhyrchu darlledu pwrpasol Whisper gan Chris Grubb a Richard Horne, sydd ag 20 mlynedd o brofiad o ddarlledu pêl-droed ar gyfer y BBC, ITV, FIFA ac UEFA. Chis Wallwork, James Leith a Chris Bridger-Linning sy'n arwain y cynnwys golygyddol gyda Kay Satterley fel Swyddog Gweithredol Cynhyrchu a Katherine Kissane fel Uwch Reolwr Cynhyrchu.

Mae'r tîm digidol newydd wedi'i sefydlu o fewn y tîm cynhyrchu cylchgrawn dan arweiniad Ian Hodge, sydd â phrofiad gwerthfawr o'i gyfnod yn DAZN ac IMG, a byddant yn gweithio'n agos gydag arweinwyr digidol ehangach Whisper, Joe Bennett a Chris Hurst. Mae'r tîm bellach yn cynhyrchu dros 90% o gynnwys UEFA.TV, gan gynnwys eiliadau gorau, darnau nodwedd, casgliadau goliau a chwaraewyr, ynghyd â chasgliadau OTT hirach.

Mae'r tîm darlledu eisoes wedi creu cynnwys trawiadol, gan gynnwys sioe gylchgrawn wythnosol Cynghrair y Pencampwyr UEFA, sioe gylchgrawn rheolaidd Cynghrair Europa UEFA a Chyngres Europa UEFA, rhaglenni sy'n arddangos dawn dweud stori ac yn cynnwys darnau nodwedd am chwaraewyr, hyfforddwyr a chefnogwyr ym mhob cystadleuaeth.

 Mark Cole, Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper: "Rydyn ni wedi cynnull tîm o 40+ sydd ag angerdd enfawr am bêl-droed a phrofiad o adrodd straeon, ac maen nhw eisoes wedi dechrau cyflwyno amrywiaeth wych o gynnwys sy’n arddangos cyfoeth cystadlaethau gwych UEFA. 

 "Mae creadigrwydd rhagorol yn rhan o DNA Whisper ac rydyn ni’n gweddu’n berffaith ag UEFA ar sut i barhau i ddarparu cynnwys y dyfodol i gynulleidfaoedd enfawr ar draws y byd." 

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.