WHISPER YN CAEL EI BENODI’N DDARLLEDWR AR GYFER RIDELONDON CLASSIQUE 2022

Mae Whisper yn frwd dros gynhyrchu rhaglenni chwaraeon merched, ac maen nhw’n falch iawn o gael eu penodi'n Ddarlledwr ar gyfer RideLondon Classique 2022, sef ras ffordd tri diwrnod WorldTour Merched UCI, a gaiff ei chynnal rhwng dydd Gwener 27 a dydd Sul 29 Mai ar lwybrau yn Llundain ac yn Essex.

Gyda rhai o dimau a beicwyr mwyaf blaenllaw’r byd yn cystadlu, mae'r Classique wedi bod yn rhan o RideLondon ers ei gynnal gyntaf yn 2013, a chafodd ei ychwanegu at galendr WorldTour Merched UCI yn 2016. Ar ôl cael ei ohirio yn 2020 a 2021 oherwydd y pandemig, bydd y Classique yn dychwelyd ag arddeliad yn 2022, a bydd yn fwy ac yn well nag erioed o'r blaen.

Bydd pencampwr y byd, Elisa Balsamo (Trek-Segafredo), pencampwr diwethaf RideLondon Classique, Lorena Wiebes, a'r pencampwr Prydeinig, Pfeiffer Georgi, (y ddwy o dîm DSM) ar y rhestr drawiadol o gystadleuwyr ar gyfer y digwyddiad y penwythnos hwn, a fydd yn cael ei gynnal dros dridiau am y tro cyntaf erioed.

Fel y Darlledwr, Whisper fydd yn cyflwyno uchafbwyntiau Cymalau 1 a 2 i bartneriaid darlledu byd-eang y BBC a RideLondon. Yna, ar y dydd Sul, bydd Whisper yn darparu darllediadau byw o'r cymal olaf, a fydd yn cael ei ddarlledu ar BBC Two am 3:30pm, yn ogystal â darparu'r ffrwd i ddeiliaid hawliau eraill yn rhyngwladol. Bydd y cymal olaf yn cynnwys nifer o olygfeydd eiconig Llundain, gan gynnwys Sgwâr Trafalgar a Dinas Llundain.

Mae tîm cynhyrchu Whisper yn cynnwys y golygydd rhaglenni Stuart Hutchison, sydd wedi cyfarwyddo RideLondon a Tour of Britain, gyda chefnogaeth Anne Somerset. Bydd Whisper yn manteisio ar eu profiad o weithredu fel darlledwr, a hwythau wedi gweithio ar nifer o ddigwyddiadau chwaraeon merched byw cymhleth eraill fel Cwpan FA Merched, y Women’s Super League a’r W Series.

Bydd Whisper hefyd yn darparu cefnogaeth ddigidol i RideLondon, gan gynhyrchu clipiau byw o’r ras ar gyfer sianeli cymdeithasol, a hynny er mwyn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i adrodd yr hanes.

Datblygwyd RideLondon gan Faer Llundain a'i asiantaethau yn 2013, ac mae’n un o wyliau beicio mwyaf blaenllaw’r byd, gan gynnwys pedair taith dorfol yn ogystal â'r Classique.

Gall y rhai sy'n chwilio am her ymuno â’r teithiau RideLondon-Essex 100, 60 a 30 milltir, ac mae FreeCycle yn gyfle i bobl o bob oed i deithio trwy Lundain ar feic fel rhan o daith rydd ar hyd wyth milltir o ffyrdd heb draffig.

Does yr un digwyddiad arall yn cyfuno elfennau hwyliog a hygyrch fel y daith deuluol rhad ac am ddim yng nghanol Llundain, gyda theithiau i herio seiclwyr mwy profiadol a chyda’r cyffro o wylio seiclwyr gorau'r byd yn cystadlu â’i gilydd.

Er mwyn apelio at gynulleidfa mor eang â phosibl (beicwyr brwd yn ogystal â gwylwyr achlysurol), bydd darllediadau Whisper yn dangos teithiau RideLondon-Essex 100, 60 a 30 a’r FreeCycle yn ogystal â’r Classique ei hun.

Dywedodd Mark Cole, Whisper MD: "Mae'r RideLondon Classique yn ddigwyddiad gwych sy'n arddangos y gorau o fyd chwaraeon: cynwysoldeb, cyfleoedd ac anogaeth, a'r cyfle anhygoel i weld y gorau yn y byd yn cystadlu. Mae'r digwyddiad yn ddathliad mawr, ac rydyn ni’n falch o’i gyflwyno i gynulleidfa fyd-eang."

Mae RideLondon wedi casglu dros £80 miliwn i elusennau ers iddo gael ei sefydlu yn 2013. Am ragor o wybodaeth ac i weld amserlen y digwyddiad ewch i: https://www.ridelondon.co.uk/

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.