WHISPER I GYNHYRCHU BOCSIO AR GYFER NOSWEITHIAU BOCSIO RHAD-AC-AM-DDIM CHANNEL 5

Mae Whisper wedi’i apwyntio fel Partner Cynhyrchu ar gyfer nosweithiau paffio rhad ac am ddim Channel 5, mewn cydweithrediad â Wasserman Boxing. Mae’r cyntaf o’r ddau ddigwyddiad ar 24 a 31 Mawrth.  

Gan weithio ochr-yn-ochr â’r hyrwyddwyr Wasserman Boxing, mae'r sylw'n dechrau gyda gornest teitl y byd i Lyndon Arthur, wrth iddo wynebu Braian Nahuel Suarez ar gyfer Pencampwriaeth Pwysau Godrwm yr IBO ar Fawrth 24 yn Bolton. Yna, ar Fawrth 31, fe fydd Harlem Eubank yn dychwelyd i Neuadd Efrog eiconig Llundain wrth iddo barhau i ddringo i fyny'r safleoedd Pwysau Gor-Ysgafn yn erbyn Christian Uruzquieta o Fecsico.

Fe fydd y ddau ddigwyddiad rhaid-eu-gweld yn cael eu darlledu’n fyw ac yn unigryw ar Channel 5 a’r unig bocsio rhad ac am ddim i’w weld ar deledu llinol yn y DU.  

Mae enw da Whisper o ddarlledu y math yma o chwaraeon yn parhau i dyfu. Y llynedd, cyflwynodd Ddarllediad Gwesteiwr All-lif y Byd o’r ornest ailgyfateb pwysau trwm The Rage on the Red Sea, rhwng Oleksandr Usyk v Anthony Joshua II, a ddarlledwyd mewn dros 180 o wledydd. Ym mis Chwefror eleni, cyflwynodd y brif ddarllediad o frwydr fawr pwysau godrwm Jake Paul v Tommy Fury. Mae Whisper hefyd yn cynhyrchu Bellator ar gyfer y BBC.

Mae tîm cynhyrchu Whisper yn cynnwys Pete Thomas, sydd wedi gweithio ym maes bocsio ers 15 mlynedd a mwy, gan gynnwys gornestau teitl y byd gyda Oleksandr Usyk, Joe Calzaghe, Amir Khan a Carl Froch. Yn ymuno ag ef y mae’r Cynhyrchydd Gweithredol John Curtis sydd â chyfoeth o brofiad mewn prif ddigwyddiadau bocsio a Sarah Warnock, fel Swyddog Gweithredol Cynhyrchu.

Caj Sohal, Pennaeth Chwaraeon Channel 5: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Whisper i atgyfnerthu edrychiad a blas ein darllediadau. Channel 5 yw’r unig rhwydwaith teledu llinol sydd wedi ymroi at y bocsio ac mae yna flwyddyn gyffrous o’n blaenau.” 

Pete Thomas, Pennaeth Chwaraeon, Whisper: “Rydyn ni’n falch iawn o gynhyrchu bocsio ar gyfer Channel 5, gan ddod â gornestay byw i gynulleidfa teledu llinol y DU.

“Ffocws Whisper o’r diwrnod cyntaf oedd i gynhyrchu chwaraeon fel adloniant, syniadaeth ac ymrwymiad a rennir gan Wasserman sy’n dod â gwylwyr newydd i’r gamp tra hefyd yn parchu ei threftadaeth, ac rydym yn gyffrous i weithio gyda nhw i sicrhau bod ein darllediadau mor ddeniadol a chyffrous â’r bocsio ei hun.”

Yn adnabyddus am gyflwyno chwaraeon heb-ei-ail ac adloniant di-sgript, mae Whisper ar hyn o bryd yn cynhyrchu Forumla One, EURO y Menywod, Y Gemau Paralympaidd, Criced Rhyngwladol a Rygbi Rhyngwladol. Mae wedi’i enwi’n Lle Darlledu Gorau i Weithio chwe gwaith, mae hefyd yn bartner cynhyrchu cynnwys ar gyfer UEFA, Wimbledon, World Rugby a’r LTA.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.