WHISPER A TIMELINE TV I GYNNAL DIGWYDDIAD RHWYDWEITHIO AR GYFER MERCHED MEWN CHWARAEON, 27 EBRILL

Mae Whisper a Timeline Television yn gwahodd pob merch sy'n gweithio ym maes cynhyrchu rhaglenni chwaraeon a thu hwnt i ddod i Ddigwyddiad Rhwydweithio ar gyfer Merched mewn Chwaraeon ddydd Mercher 27 Ebrill, 2022, yn Whisper, Kew, 09:30-11:30am.

Dyma wahoddiad i ymuno â ni ar gyfer ein digwyddiad i ferched, lle gallwch gael sgwrs anffurfiol gyda mentoriaid y diwydiant o gwmniau Whisper a Timeline, cewch ddysgu am ein cyfleoedd gwaith byw a chael cyngor ar sut i symud ymlaen ym maes cynhyrchu chwaraeon.

Rydyn ni eisiau clywed gan ferched waeth beth fo’u cefndir neu set sgiliau. Os ydych chi’n gweithio ym maes cynhyrchu chwaraeon neu beirianneg darlledu ar y funud, neu’n ystyried dychwelyd i'r gwaith neu'n teimlo bod gennych sgiliau trosglwyddadwy, gallwn eich helpu i weithio mewn ystod eang o rolau, boed yn swyddi golygyddol neu gynhyrchu, swyddi ôl-gynhyrchu neu dechnegol.

I wneud cais i ddod, anfonwch eich CV ynghyd â nodyn i egluro pam yr hoffech ymuno i getinvolved@whisper.tv erbyn dydd Gwener 15 Ebrill, 2022.

Bydd diodydd a brecwast ar gael!

Pam Ddylwn i Ymgeisio?

  • I gael cyngor gan fentoriaid Whisper a Timeline
  • I ddysgu am fywyd yn y diwydiant
  • I fwrw ymlaen â'ch gyrfa ym maes cynhyrchu rhaglenni chwaraeon
  • I ddysgu am ymroddiad Whisper a Timeline o ran cynhwysiant
  • I gwrdd â phobl o'r un anian

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.