PENODI WHISPER YN BARTNER CYNHYRCHU WIMBLEDON

Mae Whisper yn falch o gyhoeddi eu bod wedi'u penodi'n Bartner Cynhyrchu Gwasanaethau Darlledu Wimbledon (WBS) ar gyfer Pencampwriaethau 2023 a 2024, a fydd yn cael eu cynnal yng Nghlwb Tennis Lawnt Lloegr Gyfan (AELTC).

Gyda’r contract helaeth hwn bydd Whisper yn gyfrifol am gynhyrchu’r ffrwd byd eang, yr uchafbwyntiau rhyngwladol, ffilm hyrwyddo greadigol yn ogystal â ffilm swyddogol o’r Bencampwriaeth. Hefyd, byddant yn gyfrifol am gynhyrchu casgliad o gynnwys difyr a gafaelgar ar gyfer yr AELTC, gan sicrhau bod gwylwyr yn cael y profiad gorau, waeth pa blatfform neu fformat maen nhw’n ei ddefnyddio. Mae Whisper a WBS eisoes yn cydweithio ar gynlluniau uchelgeisiol ac arloesol ar gyfer y Pencampwriaethau sydd i ddod.

Caiff y Pencampwriaethau eu cydnabod fel twrnament tennis mwyaf mawreddog yn y byd, gyda thros 500,000 o ymwelwyr yn dod i’r Pencampwriaethau bob blwyddyn, a miliynau'n gwylio ledled y byd. A hwythau ar flaen y gad wrth ddarparu chwaraeon fel adloniant, bydd Whisper yn darparu cynnwys uchelgeisiol yn y digwyddiad enwog ac yn ehangu brand eiconig Wimbledon ymhellach.

Dangoswyd gallu Whisper i ddarparu cynnwys beiddgar a thrawiadol o bencampwriaethau chwaraeon y llynedd wrth iddynt gyflwyno cystadleuaeth EURO Merched UEFA gyda'r BBC, a nhw oedd y Darlledwr ar gyfer yr RLWC2021 yn 2022, gan ddenu’r cynulleidfaoedd mwyaf erioed ar gyfer y pencampwriaethau hyn.

Yn 2022, gweithiodd Whisper gyda'r LTA i ddarparu cynnwys digidol i ehangu apêl y gamp, gan gynnwys cyfres gyda'r gyrrwr Billy Monger i hyrwyddo tennis cadair olwyn a chynnwys proffil uchel gydag Andy Murray.

Dywedodd Paul Davies, Pennaeth Darlledu, Cynhyrchu a Hawliau’r Cyfryngau yn yr AELTC,: "Rydyn ni’n hynod falch o fod yn bartner gyda Whisper; bydd eu dawn cynhyrchu a dweud straeon yn arwain at gynnwys ffres a chreadigol ar gyfer ein cynulleidfa fyd-eang sy'n ehangu. Gyda’u gwaith â rhai o enwau mwyaf chwaraeon mae Whisper wedi newid y dirwedd o ran cynhyrchu rhaglenni chwaraeon, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddangos eu cynnyrch i'n darlledwyr, i’n partneriaid masnachol, ac ar ein llwyfannau ein hunain hefyd."

Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper, Mark Cole: "Mae hwn yn gyfle gwych i weithio gydag un o frandiau chwaraeon mwyaf y byd, ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn bartner gyda'r AELTC i ddarparu cynnwys darlledu a digidol o ansawdd uchel dros y ddwy flynedd nesaf.

"Rydyn ni’n hyderus y bydd ein ffilmiau creadigol, ein gallu i adrodd straeon mewn ffordd greadigol, a’n dulliau dyfeisgar yn creu bwrlwm o amgylch Y Pencampwriaethau ac yn gwella profiad y cefnogwyr. Gyda ffocws ar adloniant, ein nod gyda’n cynnwys fydd i fod yn drawiadol ac i gyflwyno cynulleidfaoedd newydd, iau i'r digwyddiad anhygoel hwn".

Mae Whisper wedi gweithio ar lefel uchaf chwaraeon sawl gwaith, ac maen nhw hefyd yn bartner cynhyrchu ar gyfer cynnwys darlledu a digidol UEFA. Maen nhw wedi’u cynnwys ar restr Lleoedd Gorau i Weithio Broadcast bum gwaith, ac wedi ennill gwobr Sioe Adloniant Chwaraeon Gorau y ddwy flynedd ddiwethaf ('Today in Tokyo' yn 2021 ac Uchafbwyntiau C4F1 yn 2022).

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.