WHISPER YN CYFLOGI’R CYFLWYNYDD A’R CHYNHYRCHYDD O DDE AFFRICA, ELMA SMIT

Mae Elma Smit wedi ymuno â Whisper, gan symud i'r DU i dderbyn rôl barhaol gyda'r Tîm.

Mae Elma eisoes wedi gweithio gyda Whisper ar nifer o brosiectau yn Ne Affrica fel gweithiwr llawrydd, gan gynnwys arwain y tîm cynhyrchu a oedd yn dilyn tîm y Springboks yn ystod taith ddiweddar y Llewod, a chyflwyno cyfweliad trawiadol gyda Babalwa Latsha, y chwaraewr benywaidd cyntaf i arwyddo cytundeb proffesiynol yn Affrica.

Yn ei rôl newydd, bydd Elma yn gyflwynydd yn ogystal ag yn gynhyrchydd, gan weithio fel rhan o dîm cynnwys wedi’i frandio a chynnwys digidol Whisper, ochr yn ochr â'r cyfarwyddwr masnachol Geoff Riding, yr arweinydd digidol creadigol Joe Bennett a'r cyfarwyddwr cyfrif Samantha Lockett.

Mae penodiad Elma yn atgyfnerthu tîm cynhyrchu rygbi Whisper, sy'n cynnwys rheolwr gyfarwyddwr Whisper Cymru, Carys Owens, y cynhyrchydd gweithredol Matt Roberts, yr uwch gynhyrchydd Harry Allen, ac un o'r chwaraewyr gorau erioed a chyn-gapten y Crysau Duon, Sean Fitzpatrick, sy'n aelod o Fwrdd Ymgynghorol Whisper.

Gydag adran yn Auckland dan arweiniad James Gemmell hefyd, mae gan Whisper bresenoldeb rygbi cryf bellach yn Awstralasia, De Affrica ac yn Ewrop.

Mae portffolio rygbi presennol Whisper yn cynnwys Rygbi’r Byd, Chwe Gwlad y Merched, Y Llewod, Undeb Rygbi Cymru a Gemau Rhyngwladol yr Hydref y Merched, yn ogystal â bod yn ddarlledwr ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd Rygbi'r Gynghrair.

 Dywedodd Elma Smit : "Mae gweithio gyda Whisper dros y misoedd diwethaf wedi bod yn antur fawr, ac mae ymuno â’r tîm yn teimlo fel dychwelyd adref. Rydw i wedi cael fy ysbrydoli gymaint gan uchelgais a brwdfrydedd y tîm dros dorri tir newydd a thros fod ar flaen y gad o ran adrodd straeon. Yn syml, allwn i ddim gwrthod y cynnig i fod yn rhan o’r cyffro, ac rydw i ar bigau i fwrw iddi a chreu cynnwys gwych."

 Dywedodd Geoff Riding, Cyfarwyddwr Masnachol Whisper: "Rwy'n falch iawn o groesawu Elma i'r DU ac rydw i wrth fy modd ei bod hi bellach yn aelod parhaol o Dîm Whisper. Mae gweithio gydag Elma yr haf hwn wedi bod yn bleser, ac mae hi wedi cynhyrchu cynnwys arbennig, gan gynnig cipolwg anhygoel o wersyll Pencampwyr Rygbi'r Byd yn ystod taith ddiweddar y Llewod.  

"Mae arbenigedd rygbi Whisper yn tyfu a thyfu, ac mae ein hawch i greu cynnwys beiddgar a deniadol yn tyfu hefyd. Rydyn ni’n llawn cyffro i ddechrau gweithio gydag Elma ac i ddod â'i llais a'i harbenigedd i'r rhaglenni uchelgeisiol, difyr rydyn ni’n eu creu ar gyfer ein partneriaid."

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.