Mae Two Sides, cyfres ddogfen tair rhan a aeth du ôl i’r llenni ar daith hanesyddol Llewod Prydain ac Iwerddon yn 2021, wedi’i henwebu ar gyfer Emmy Rhyngwladol.
Yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng cwmni cynhyrchu T+W o Dde Affrica a Whisper Cymru o Gymru, mae’r gyfres ‘Two Sides’ wedi cyrraedd rhestr fer y Rhaglen Ddogfen Chwaraeon Orau yn erbyn dim ond tri enwebiad rhyngwladol arall. Comisiynwyd y rhaglen ddogfen gan, ac fe’i gwnaed ar y cyd â, Llewod Prydain ac Iwerddon ac Undeb Rygbi De Affrica.
Dyma’r tro cyntaf i Whisper neu T+W gael eu henwebu ar gyfer Emmy Rhyngwladol.
Mae’r gyfres ddogfen ‘Two Sides’ yn edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yng ngwersylloedd y Springbok a’r Llewod yn ystod Taith De Affrica 2021. Gan gamu i ffwrdd o fformat rhaglen ddogfen traddodiadol y Llewod, mae 'Two Sides' yn adrodd hanes y Llewod a'r Springboks yn ystod y Daith gyntaf i Dde Affrica ers 2009. Mae'r rhaglen ddogfen yn cynnwys darnau o ffilm agos-atoch o'r ddau wersyll wrth iddynt gymryd rhan mewn cyfres hynod ddiddorol o gemau a gwblhawyd yn llwyddiannus yn erbyn cefndir hynod heriol pandemig byd-eang.
Darlledwyd Two Sides ar draws M-Net a SuperSport yn Ne Affrica ym mis Mai 2022, ac yna ar ITV, DU a Virgin One, Iwerddon ym mis Mehefin. Denodd y gyfres lawer o ddiddordeb ar y cyfryngau cymdeithasol a sylw yn y cyfryngau, ac ymhlith yr adolygiadau roedd:
“Yn syml iawn, y rhaglen ddogfen orau i mi ei gweld erioed am rygbi ac yn wir pob math o chwaraeon... Campwaith o raglen ddogfen " Martin Hannan, Yr Herald
"Emosiwn, bywiogrwydd a helbul, mae rhaglen ddogfen ddiweddaraf y Llewod yn gymhellol i’w gwylio… chwa o awyr iach " Ben Coles, The Telegraph
Ariannwyd a chefnogwyd y gyfres gan y Llewod Prydeinig ac Gwyddelig, Undeb Rygbi De Affrica a Super Sport.
Ben Calveley, Prif Swyddog Gweithredol Llewod Prydain ac Iwerddon: "Mae’r rhaglen ddogfen hon yn dangos sut y gwnaeth y ddwy ochr ymateb i’r her ddigynsail o gynnal digwyddiad chwaraeon mawr yn ystod pandemig byd-eang."
Rian Oberholzer, Prif Swyddog Gweithredol Undeb Rygbi De Affrica: "Bydd cefnogwyr rygbi’n siwr o gredu bod y rhaglen ddogfen hon yn hynod ddifyr, gyda’r ychwanegiad y tro hwn o deimlo fel eich bod yn y gwersylloedd ac yn rhan o’r daith unigryw hon. Bydd Two Sides yn archif hyfryd i gefnogwyr rygbi edrych yn ôl arni am ddegawdau i ddod.”"
Rendani Ramovha, Prif Swyddog Gweithredol SuperSport: "Fel darlledwr, rydyn ni’n ymdrechu’n gyson i adrodd y straeon gorau yn Affrica, ac o ochr chwaraeon nid oes unrhyw eithriadau. Mae Two Sides yn arddangos dau dîm o safon fyd-eang a rhoddodd gyfle i ni fynd â gwylwyr y tu ôl i’r llenni ar daith y Llewod a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod anoddaf i chwaraeon yn y byd modern. Mae’r enwebiad yn dyst i waith caled, cynllunio, a gweithrediad y timau cynhyrchu o’r ddau gyfandir"
Carys Owens, Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper Cymru: "Wedi’i ffilmio yng nghanol cefndir o aflonyddwch sifil a Covid, roedd hwn yn brosiect clo heriol i’r holl griw cynhyrchu, ond yn un yr oeddem yn ei fyw llwyr. Mae bob amser yn gymaint o fraint i gael mynediad tu ôl i’r llenni, ond mae'r diolch mwyaf i'r chwaraewyr a'r hyfforddwyr sy'n ymddiried ynom i adrodd eu straeon."
"Mae cael ein enwebu ar gyfer Emmy yn gyflawniad mor aruthrol. Rwy’n falch iawn o’r tîm cyfan – mae cael ein enwebu yn teimlo fel buddugoliaeth ynddo’i hun!"
Sunil Patel, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Whisper: "Mae cael ein henwebu ar gyfer Emmy, yr un flwyddyn ag y bu i ni ennill BAFTA mewn genre arall, yn anhygoel! Mae cymaint o nodweddion gwych yn y Gyfres hon. Roedd gennym ni ddau dîm yn y gwersyll dan arweiniad menywod a deithiodd o fewn swigen Covid, ynghyd â thîm y tu allan i'r gwersyll a ddatgelodd safbwynt teuluoedd y chwaraewyr yn gwylio o'u cartrefi. Roedd gennym dimau yn gweithio yn y DU, Iwerddon, Seland Newydd a De Affrica, gan ddefnyddio'r dechnoleg cwmwl ddiweddaraf i gydweithio. Mae’n enghraifft arbennig o waith tîm anhygoel ac yn bartneriaeth wych rhyngom ni a T+W."
Gareth Whittaker, Prif Swyddog Gweithredol T&W: "Nid yw enwebiad Emmy yn rhywbeth sy’n digwydd yn aml iawn, yn debyg iawn i’r posibilrwydd o ffilmio taith unwaith mewn oes. Rydym yn ymfalchïo mewn adrodd straeon gwych, a bydd cystadleuaeth y Springboks â Llewod Prydain ac Iwerddon bob amser yn darparu drafft cyntaf gwych. Ychwanegwch yr haen o COVID-19, stadiymau gwag, a thaith mewn perygl ar ben hynny, bu’n rhaid i ni fod yn fwy thrylwyr nag erioed o’r blaen. Mae Two Sides yn un o’n llwyddiannau mwyaf, ac mae enwebiad Emmy yn rhywbeth y byddwn nid yn unig yn ei drysori ond yn gobeithio trosi’n fuddugoliaeth!"