SONY PICTURES TELEVISION A WHISPER NORTH I LANSIO SIOE SGWRSIO HWYRNOS SYNDICETIEDIG NEWYDD GYDA CRAIG FERGUSON

CHANNEL SURF WITH CRAIG FERGUSON I’W DARLLEDU AM Y TRO CYNTAF YN HYDREF 2023

Heddiw cyhoeddodd Sony Pictures Television (SPT) y bydd sioe sgwrsio hwyrnos syndicetiedig newydd hanner awr o hyd gyda Craig Ferguson yn cyflwyno,  Channel Surf with Craig Ferguson, yn cael ei chynhyrchu gan Whisper North a’i dosbarthu gan SPT.

Yn ei gyfres newydd Channel Surf with Craig Ferguson bydd Craig Ferguson yn dychwelyd at sioeau sgwrsio hwyrnos am y tro cyntaf ers 2014, gan ymuno â’i ffrindiau i adolygu eiliadau mwyaf ysgytwol, annisgwyl a doniol rhaglenni’r wythnos. Gyda’i hiwmor dihafal, bydd barn Ferguson ar hoff sioeau’r genedl yn saff o gael gwylwyr yn chwerthin, yn crio, neu’n taflu pethau tuag at y sgrin! Ferguson a Tom McLennan, sef Rheolwr Gyfarwyddwr Gogledd Whisper a Chyfarwyddwr Entertainment North ITV gynt, fydd y cynhyrchwyr gweithredol, a Richard Easter (America's Got Talent a You’ve Been Framed) a Joe Bolter (The Late Late Show with Craig Ferguson) sydd wedi gweithio gyda Ferguson ers bron i 15 mlynedd, fydd awduron y sioe.

"Gyda phrinder o sitcomau ar gael i orsafoedd, mae gwylwyr angen rhywbeth i wneud iddyn nhw chwerthin. Channel Surf yw'r sioe berffaith ar gyfer hynny. Mae Craig yn dalent ryfeddol sydd wedi rhagori mewn rhaglenni o bob math, ac mae ganddo ymwybyddiaeth wych. Mae'r gwylwyr yn ei adnabod ac yn ei garu. Mae’r peilot a ffilmiwyd gyda Craig yn hynod ddoniol, ac rydyn ni ar bigau i ailgyflwyno ein prynwyr i’w ddoniau, ac yn edrych ymlaen at roi cyfle i gynulleidfaoedd wylio'r sioe ddoniol iawn hon," meddai Zack Hernandez, SVP, US Syndication Sales, SPT.

"Roeddwn i’n awyddus i wneud Channel Surfing gan fy mod i’n credu bod y byd teledu’n barod ar gyfer dychweliad y fformat pyped gwirion/doniol/lip-synch achlysurol. Hefyd, mae'n rhaglen sy'n cynnwys clipiau amheus o raglenni eraill, ac felly'n creu turducken gweledol o dwpdra ysblennydd," meddai'r cyflwynydd Craig Ferguson.

"Mae gweithio gyda Craig unwaith eto yn rhywbeth sy’n fy llenwi â chyffro.  Ef yw'r person doniolaf i mi weithio â nhw erioed, ac mae ei egni a'i greadigrwydd yn heintus. Mae'n anrhydedd bod yn gynhyrchydd gweithredol ar gyfer Channel Surfing ac i weld Craig unwaith eto yn gwneud yr hyn mae'n ei wneud orau: bod yn onest, yn ddiymhongar ac yn hynod ddoniol," meddai Tom McLennan, Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper North.

Mae Craig Ferguson yn actor sydd wedi ennill sawl gwobr Emmy® a Peabody yn ogystal â chael enwebiad am Grammy, mae’n awdur, yn gynhyrchydd, yn gyfarwyddwr ac yn ddigrifwr sydd wedi cael gyrfa amrywiol ym mydoedd ffilm, teledu a'r llwyfan. Mae'n un o awduron gwerthiant gorau y New York Times ac mae wedi recordio nifer o raglenni comedi arbennig ar gyfer Netflix, Epix, Comedy Central ac Amazon. Cafodd sioe hynod boblogaidd The Late Late Show with Craig Ferguson ei darlledu ar CBS am ddeng mlynedd, ac mae'n parhau i fod yn ffefryn ar YouTube, gyda miliynau bob blwyddyn yn gwylio clipiau a gaiff eu llwytho gan ei gefnogwyr. Ers gadael Late Night, aeth Ferguson yn ei flaen i gyflwyno Celebrity Name Game (2014-2017) a The Hustler (2021) ar ABC. Yn fwyaf diweddar, bu’n perfformio ei gomedi stand-yp i gynulleidfaoedd ledled Gogledd America yn 2022. Cynrychiolir Ferguson gan WME, Vault Entertainment a Gang, Tyre, Ramer, Brown &Amp; Passman.

Ffilmiwyd peilot ar gyfer Channel Surf with Craig Ferguson yn y DU y mis hwn, a bydd SPT yn dangos y sioe i brynwyr posib yn Los Angeles yr wythnos hon.

Mae Whisper North, a lansiwyd yn 2021, yn cynhyrchu fformatau adloniant ac mae eisoes wedi ennill tri chomisiwn mawr. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Grŵp Whisper wedi ehangu ei hadran rhaglenni heb ei sgriptio'n sylweddol, gan gynnwys sioe gwis ITV, Riddiculous, rhaglen ddogfen premiwm  Ben Stokes; Phoenix from the Ashes ar gyfer Amazon, yn ogystal â rhaglen Billy Connolly Does... ar gyfer UKTV.  .

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.