WHISPER I GYNHYRCHU DARLLEDIAD JOSHUA V USYK II, RAGE ON THE RED SEA

Usyk yn wynebu AJ

Mae’r hyrwyddwyr Skill Challenge Entertainment wedi dewis Whisper i ddarparu'r Darllediad Ffrwd Byd ar gyfer gornest Oleksandr Usyk v Anthony Joshua II, gornest pwysau trwm mwyaf y flwyddyn.

Ar ddydd Sadwrn 20 Awst yn Jeddah, Saudi Arabia, bydd Usyk, pencampwr pwysau trwm yr WBA, yr IBF a’r WBO, yn brwydro i gadw ei deitl yn erbyn Joshua, sydd wedi bod yn bencampwr pwysau trwm ddwywaith yn y gorffennol ac wedi ennill medal aur Olympaidd, mewn ailornest o’r enw Rage on the Red Sea.

Fel cwmni cynhyrchu chwaraeon sydd ag enw da yn rhyngwladol, bydd Whisper yn defnyddio eu profiad sylweddol o gynhyrchu darllediadau er mwyn dangos y digwyddiad ledled y byd, gan weithio gyda phartneriaid darlledu rhyngwladol gan gynnwys Sky Sports Box Office yn y DU.

Mae tîm cynhyrchu Whisper yn cynnwys Pennaeth Chwaraeon Whisper, Pete Thomas, sydd wedi gweithio ar ornestau pencampwr y byd gyda Joe Calzaghe, Amir Khan, Carl Froch a Tyson Fury yn nyddiau glas ei yrfa, ynghyd â Chyfres Bocsio'r Byd. Yn ymuno ag ef mae'r Cynhyrchydd Gweithredol, John Curtis, sydd wedi treulio’r 15 mlynedd ddiwethaf ym myd bocsio yn gweithio ar ddigwyddiadau talu-i-wylio, megis Mayweather v Pacquiao, Klitschko v Fury a Froch v Groves. Bydd Bethan Evans, Cyfarwyddwr Cynhyrchu Whisper, a’r Cynhyrchwyr Gweithredol, Sunil Patel a Mark Cole, hefyd yn ymuno â nhw. Bydd y tîm cyflawni’n cynnwys aelodau o'r DU, yn ogystal â chriw lleol.

Mae Whisper yn gweithio gyda Chapter 3 Graphics i greu effeithiau clyweledol gwych ynghyd â rhaglen oleuo effeithiol a difyr i’w darlledu i filiynau o amgylch y byd.

Mae Whisper eisoes wedi cynhyrchu dau ddigwyddiad lansio ar gyfer y wasg er mwyn hyrwyddo'r ornest (yn Jeddah ac yn Llundain) yn ogystal â chreu ffilm hyrwyddo safonol a ryddhawyd yr wythnos ddiwethaf.

Sunil Patel, Prif Swyddog Gweithredol Whisper: "Teitl pwysau trwm y Bencampwriaeth yw un o wobrau mwyaf y byd chwaraeon. Mae hwn yn ddigwyddiad mawr, ac rydyn ni’n rhannu uchelgais Skill Challenge Entertainment i sicrhau y bydd Rage On The Red Sea yn ornest a gaiff ei chofio ledled y byd. Rydyn ni wrth ein boddau yn darparu digwyddiadau chwaraeon o bwys sy’n diddanu'r byd, ac mae hon yn foment enfawr ym myd bocsio. Pob clod i John Curtis am ei holl waith wrth sicrhau'r cyfle hwn ac i holl dîm Whisper am wneud iddo ddigwydd."

A hwythau’n adnabyddus am ddarparu rhaglenni chwaraeon fel adloniant, mae Whisper ar hyn o bryd yn cynhyrchu rhaglenni Fformiwla Un, EURO 2022 y Merched, Y Gemau Paralympaidd, Criced Rhyngwladol, Rygbi Rhyngwladol a llawer mwy. Mae eu darllediadau’n cynnwys Bellator, West Indies Cricket, W Series Racing, New Zealand Cricket, Rygbi Merched a Phêl-droed Merched.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.