WHISPER I GYNNAL DIGWYDDIAD RECRIWTIO AR GYFER TALENT ANABL

Cynhyrchiad digwyddiad Whisper

Mae Whisper yn gwahodd talent anabl i wneud cais i fod yn rhan o Ddiwrnod Recriwtio ar 1 Chwefror 2023, a hynny er mwyn gwireddu eu nod i wella cynrychiolaeth ym maes cynyrchiadau chwaraeon.

Whisper, sef y cwmni a gynhyrchodd ddarllediadau Gemau Paralympaidd Tokyo 2020 a Gemau Gaeaf Beijing 2022, fydd hefyd yn cynhyrchu Gemau Paralympaidd Paris yn 2024. Yn eu gwaith â Channel 4 mae Whisper wedi llwyddo i gynyddu’r nifer o bobl anabl sy'n gweithio y tu ôl i'r camera ar y cynyrchiadau hyn, o 16% yng Ngemau Tokyo i 18% ar gyfer Beijing, ac maen nhw’n awyddus i barhau â’r duedd yma.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Whisper fod yr enillydd Medal Aur, Liz Johnson, wedi ymuno â'r tîm cynhyrchu fel Cynhyrchydd Gweithredol, ac maen nhw’n awyddus i ehangu ymhellach.

Mark Cole: "Rydyn ni wrthi'n adeiladu ein tîm Paralympaidd, gan fanteisio ar ein talent fewnol eithriadol yn ogystal â chyflogi o’r newydd. Er ein bod yn canolbwyntio ar y Gemau Paralympaidd sydd ar y gweill, bydd llawer o'r swyddi rydyn ni’n recriwtio ar eu cyfer yn parhau y tu hwnt i'r Gemau ac yn cynnwys prosiectau cyffrous eraill y mae Whisper yn ymwneud â nhw, megis Pêl-droed Merched, F1, Tennis a Chriced Rhyngwladol."

Ar hyn o bryd mae gan Whisper fideo ar eu holl sianeli cymdeithasol sy'n dangos cyflwynwyr Y Gemau Paralympaidd yn hyrwyddo’r digwyddiad sydd i ddod.

Dylai’r rhai sy’n awyddus i wneud cais anfon eu CV ynghyd â pham y dylen nhw gael eu hystyried i getinvolved@whisper.tv, erbyn Ionawr 10

Mae swyddi gwag ar gyfer rhai sydd eisoes â phrofiad cynhyrchu yn ogystal â rhai sy’n awyddus i ddechrau o’r newydd.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.