Gyda Chwpan y Byd FIFA 2022 yn nesáu, heddiw mae Whisper, Final Replay a Sony Pictures Television yn cyhoeddi cyfres newydd sbon o’r enw 'Moment Of Truth', a gynhyrchwyd ar y cyd â FIFA+, y gyrchfan ddigidol newydd ar gyfer cenfogwyr pêl-droed a lleoliad archif pêl-droed Cwpan y Byd FIFA.
Mae 'Moment Of Truth' yn trin a thrafod hoff gamp y byd drwy lens ymdrech ddynol: Pam fod y gêm yn golygu cymaint i ni? Beth sy'n gyrru ein pêl-droedwyr gorau? Beth sy'n arwain timau at lwyddiant? Beth allwn ni ddysgu am ein hunain? Mae deg gair syml yn cynnig ateb, a bydd pob pennod yn cael eu hadeiladu o amgylch y themâu hyn:
Absolution, Cunning, Genius, Courage, Inspiration, Joy, Art, Passion, Hope, Wisdom
Gyda mynediad digynsail at archifau Cwpan y Byd FIFA, sy’n dyddio'n ôl i'r twrnamaint cyntaf yn 1930, a chyda cyfraniadau anhygoel gan enwogion y gêm, gan gefnogwyr, sylwebwyr a seicolegwyr blaenllaw, mae pob pennod yn trin a thrafod prif straeon ac eiliadau eiconig pencampwriaethau Cwpan y Byd dynion a menywod FIFA.
Trwy graffu mewn manylder fforensig ar effaith pob un o'r eiliadau hyn, ar eu cefndir a’r llinell amser, ar sut y newidiwyd y chwaraewr a pham eu bod yn cael gymaint o ddylanwad arnom ni fel gwylwyr, mae 'Moment Of Truth' yn rhoi pêl-droed o dan y microsgop, yn craffu ar yr ecstasi a’r artaith, gan neidio yn ôl ac ymlaen trwy amser er mwyn creu cyfres unigryw a dadlennol sy’n wahanol i bopeth a welwyd o’r blaen.
Cynhyrchwyd 'Moment Of Truth' gan Whisper a Final Replay mewn cydweithrediad â FIFA +. Dosberthir y gyfres ledled y byd gan Sony Pictures Television.
Henry Winter, awdur y gyfres a Phrif Ohebydd Pêl-droed, The Times: "O funud gyntaf y gêm ym Montevideo yn 1930 hyd at gic gosb Megan Rapinoe yn Rownd Derfynol Cwpan y Byd Merched 2019 – byddMoment Of Truth yn archwilio eiliadau dadlennol o wirionedd ar draws yr holl sbectrwm - y rhai eiconig, y rhai sy’n synnu, a’r rhai nad ydynt mor gyfarwydd."
Mark Cole, Rheolwr Gyfarwyddwr, Whisper: "Gall chwaraeon ennyn a thanio emosiwn fel dim arall – yn enwedig pêl-droed. Yn Moment Of Truth, byddwn ni'n siarad â'r rhai a oedd yno yn nigwyddiadau mwyaf hanes Cwpan y Byd. Gan ddefnyddio archif anhygoel FIFA, bydd enwogion y gamp fel Andres Iniesta, Lothar Matthäus, Aya Miyama a Michael Owen yn egluro’r angerdd, y llawenydd a'r ddawn a oedd yn eu gyrru nhw ymlaen, wrth i ni geisio datgelu pam fod pêl droed yn golygu cymaint i ni."
Neil Canetty-Clarke, Cynhyrchydd Gweithredol, Final Replay: "Bu hanner poblogaeth y Ddaear yn gwylio pencampwriaeth ddiwethaf Cwpan y Byd. Ac wrth i'r cyffro gynyddu cyn pencampwriaeth Qatar, bydd Moment Of Truth, sydd â throslais gan David Harewood o Homeland, yn caniatáu i gefnogwyr pêl-droed ar draws y byd gael cipolwg unigryw a gafaelgar ar straeon dramatig hoff gamp y byd."
James Abraham, Golygydd Comisiynu FIFA+: "Dyma gywaith dyfeisgar gan FIFA+, Whisper, Final Replay a Sony Pictures Television i greu cyfres wirioneddol ddiddorol sy'n ymchwilio seicoleg y gêm rydyn ni i gyd yn ei charu. Mae'r archif helaeth sydd gennym ar FIFA+ yn gosod cefndir perffaith i’r straeon y mae Moment Of Truth yn eu hadrodd – rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld cefnogwyr pêl-droed yn mwynhau'r cipolwg unigryw a chraff hwn ar Gwpan y Byd FIFA."
FIFA + yw'r gyrchfan ddigidol newydd ar gyfer cefnogwyr pêl-droed yn ogystal â lleoliad archif pêl-droed Cwpan y Byd FIFA.