Mae Grŵp Whisper wedi cyhoeddi heddiw eu bod wedi buddsoddi yn Moonshine Features, cwmni cynhyrchu newydd sy'n arbenigo mewn fformatau wedi’u sgriptio a heb eu sgriptio sinematig ar gyfer teledu domestig a theledu rhyngwladol.
Sefydlwyd Moonshine Features gan y Cyfarwyddwyr Creadigol arobryn Michelle Crowther a Mike Reilly, sydd â thros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad yn y maes, ac maen nhw’n canolbwyntio ar greu cynnwys sy'n 'agor drysau i fydoedd na wnaethoch chi erioed feddwl oedd yn bodoli'.
Mae eu cyfarwyddwyr wedi gweithio gyda rhai o enwau mwyaf adnabyddus byd adloniant, megis Michael Sheen, Helena Bonham Carter a Micky Flanagan, ac maen nhwwedi cynhyrchu amrywiaeth o sioeau heb eu sgriptio llwyddiannus fel Billy Connolly's Route 66 a Billy Connolly's Made In Scotland, Micky Flanagan's Detour De France, Tate Britain's Great Art Walks a Richard E. Grant’s Hotel Secrets sydd wedi ennill clod mawr, ymysg eraill.
Ymunodd Moonshine Features â Grŵp Whisper o weld cryfder eu bwriad a’u seilwaith, yn ogystal â’u cyrhaeddiad a'u presenoldeb cynyddol yn y diwydiant.
Dywedodd Michelle: "Roedd gwerthoedd craidd Whisper yn atyniad enfawr i ni; mae eu hymroddiad a'u huchelgais yn heintus. Maen nhw wedi bod yn hynod gefnogol ac mae'r bartneriaeth yn gyfle gwych i ddysgu gan ei gilydd.
Dywedodd Mike : "Sefydlwyd Moonshine Features er mwyn ychwanegu ychydig o ddawn dweud stori sinematig i'n gwaith ffeithiol a chelfyddydol, ac mae gweithio mewn partneriaeth gyda Whisper wir yn caniatáu inni fod yn uchelgeisiol wrth wireddu ein comisiynau nesaf. Mae'r posibiliadau yn teimlo'n ddi-ben-draw."
Fel rhan o Grŵp Whisper, bydd Moonshine Features yn ymuno ag East Media, sy’n arbenigo mewn adloniant heb ei sgriptio, a’r asiantaeth dylunio graffeg Chapter 3 Graphics ac mae’r ddau gwmni wedi tyfu'n sylweddol ers ymuno â Grŵp Whisper y llynedd.
Dywedodd Sunil Patel, Prif Swyddog Gweithredol Whisper: "Mae Mike a Michelle ill dau wedi dangos, sawl gwaith yn eu gyrfaoedd, fod ganddyn nhw ddawn wrth gydweithio â thalent anhygoel ar y sgrin i adrodd straeon mewn ffordd ddeniadol a sinematig. Mae eu cael nhw a Moonshine Features yn rhan o’r Grŵp yn ychwanegu profiad sylweddol ac yn atgyfnerthu ein cynnig cyffredinol. Mae hefyd yn rhoi hwb i'n presenoldeb ym maes adloniant heb ei sgriptio ac wedi’i sgriptio. Rydyn ni’n edrych ymlaen at roi’r gefnogaeth y mae Moonshine ei angen i ddatblygu a thyfu."
Ceir rhagor o wybodaeth am Moonshine Features yma