WHISPER YN CYFLOGI LIZ JOHNSON, ENILLYDD MEDAL AUR, FEL CYNHYRCHYDD GWEITHREDOL

Liz Johnson

Mae Whisper yn falch o gyhoeddi bod Liz Johnson, Enillydd Medal Aur Paralympaidd a Phencampwr Nofio'r Byd yn ogystal â Darlledwraig ac Arweinydd Cynhwysiant, wedi ymuno â'r cwmni cynhyrchu arobryn wrth iddynt baratoi i ddarlledu Gemau Paralympaidd Paris 2024 gyda Channel 4.

Fel Cynhyrchydd Gweithredol Gemau Paralympaidd Paris 2024, bydd Liz yn rhan annatod o Dîm Cynhyrchu Whisper a Channel 4 wrth iddynt barhau i ddatblygu a gwella sut y caiff y Gemau Paralympaidd eu darlledu. Enillodd Whisper a Channel 4 wobrau am eu darllediadau o Gemau Paralympaidd Tokyo 2020, ac yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf Beijing 2022 am y tro cyntaf erioed defnyddiwyd tîm cyflwyno 100% anabl.

Yn ei rôl newydd, bydd Liz yn helpu i osod cywair ac i bennu cyfeiriad creadigol y Gemau. Bydd hi'n gweithio gyda’r tîm i wella cynrychiolaeth ac i wella dealltwriaeth y gwylwyr o’r ystod enfawr o anableddau a phrofiadau sy'n bodoli, gan sicrhau bod pawb sy'n gwylio'r Gemau yn teimlo fel eu bod yn cael eu cynnwys ac yn cael eu deall.

Bydd Liz yn gweithio gyda Matt Roberts a Kay Satterley o Whisper, dau a fu’n gyfrifol am gynhyrchu Gemau Paralympaidd Tokyo 2020 a Gemau Paralympaidd y Gaeaf Beijing 2022.

Yn ystod y cam cyntaf, bydd Liz yn helpu â gwaith recriwtio ychwanegol ar gyfer y tîm cynhyrchu. Trwy ddefnyddio ei phrofiad fel rheolwr gyfarwyddwr ac un o gyd-sylfaenwyr The Ability People, y busnes recriwtio cyntaf a arweinir gan anableddau yn y DU, bydd yn sicrhau bod prosesau Whisper mor gynhwysol â phosibl.

Ar gyfer Gemau Tokyo 2020, nodwyd bod 16% o dîm cynhyrchu Whisper yn anabl, a chodwyd y ffigwr hwn i 18% yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf Beijing 2022. Bydd y tîm ar gyfer 2024 yn parhau i ddatblygu hyn.

Dywedodd Liz Johnson, Cynhyrchydd Gweithredol, Whisper: "Rydw i mor falch o fod yn rhan o ddarllediadau Whisper o’r Gemau Paralympaidd ar Channel 4. Gweithiais gyda nifer o aelodau o dîm Tokyo 2020, fel cyflwynydd ac fel sylwebydd, ac rwyf wedi gweld y gwaith trawiadol mae Whisper yn ei wneud i wella amrywiaeth a chynhwysiant, a hynny o flaen y camera a’r tu ôl iddo. Mae cael y cyfle hwn i ddod â fy holl ddiddordebau a fy noniau ynghyd yn ofnadwy o gyffrous.

"Rydyn ni am i'n darllediadau gyflwyno'r campau yn y ffordd orau a mwyaf creadigol posib, yn ogystal â normaleiddio anabledd a gwella ymwybyddiaeth o'r hyn y mae anabledd yn ei olygu yn 2024. Rydyn ni am sicrhau bod pawb yn gallu uniaethu â’n darllediadau."

Dywedodd Mark Cole, Rheolwr Gyfarwyddwr, Whisper: "Mae'n wych cael Liz fel Cynhyrchydd Gweithredol ar gyfer Gemau Paralympaidd Paris 2024, bydd yn gymorth i sicrhau bod ein darllediadau mor ddifyr a dilys â phosibl.

"Gyda phoblogrwydd chwaraeon Paralympaidd ar gynnydd aruthrol, Gemau 2024 fydd y rhai mwyaf erioed, ac maen nhw’n cynnig cyfle enfawr i ni wneud argraff gyda’n darllediadau.

"Rydyn ni wrthi'n adeiladu ein tîm Paralympaidd, gan dynnu ar ein talent fewnol eithriadol ynghyd â chyflogi pobl newydd. Rwy'n gwybod bod gan Liz lawer o syniadau a chynlluniau yn barod, ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio gyda hi arnyn nhw."

Mae Whisper wedi sefydlu ei hun fel un o brif gwmnïau cynhyrchu'r DU ar gyfer chwaraeon, rhaglenni heb eu sgriptio a rhaglenni dogfen. Mae eu gwaith yn cynnwys pencampwriaeth merched Euro 2022 ar gyfer y BBC, Fformiwla Un ar gyfer Channel 4, Today at The Test ar gyfer y BBC, Women's Super League ar gyfer y BBC, Cwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair ar gyfer y BBC - yn ogystal â Ben Stokes: Phoenix from the Ashes, Gemau Paralympaidd Tokyo 2020 a Gemau Paralympaidd y Gaeaf Beijing 2022 ar gyfer Channel 4.

By using this website, you agree to our use of cookies. We use cookies to provide you with a great experience and to help our website run effectively.