Mae Whisper yn gyffrous iawn i gyhoeddi y bydd Whisper North yn cyflwyno’r rhaglen gwis Jeopardy! i ITV1 ac ITVX yr hydref hwn.
Y darlledwr Stephen Fry bydd yn cyflwyno, ac fe fydd y sioe adloniant yn ystod yr wythnos yn dod ag elfen o hiraeth i ddilynwyr y fformat, tra’n cyflwyno’r sioe gwis i’r teulu i gynulleidfa newydd sbon.
Wedi ei gynhyrchu gan Whisper North, cangen adloniant Grwp Whisper, fe fydd yr 20 pennod 1 awr yn gweld cystadleuwyr yn chwarae i ennill, gan ddefnyddio eu gwybodaeth gyffredinol orau i ennill rowndiau a gallant barhau i gronni enillion, po hiraf y byddant yn aros yn y gêm.
Bydd y sioe newydd yn caniatáu i gystadleuwyr chwarae rownd ychwanegol o gymharu â'r fformat gwreiddiol, gan gynyddu'r enillion i'r chwaraewyr. Daeth y clasur Americanaidd i sgriniau yn y DU am y tro cyntaf yn yr 1980au ond nawr, mae Whisper North, ITV1 a Stephen Fry ar fin dod â thro modern i'r sioe gwis ddiwylliannol eiconig.
Dywedodd Stephen Fry: “Mae Jeopardy! yn ffenomen yn yr Unol Daleithiau. Rwy’n gwneud fy ngorau glas i’w wylio pryd bynnag yr wyf yn America. Mae’r syniad o gael cyflwyno’r rhaglen yn y DU yn fy ngwneud yn benysgafn braidd! Fe fydd cenedl, fel y DU, sy’n hoff iawn o sioeau cwis yn rhoi croeso twymgalon i’r gêm hynod hudolus a gwerth chweil hon.”
Dywedodd Katie Rawcliffe, Pennaeth Adloniant ITV: “Mae cyflwyno Jeopardy! i gynulleidfa newydd sbon fel rhan o’n cynnig wythnosol yn gyffrous iawn. Does neb gwell i gyflwyno’r sioe na Stephen, mae e’n wybodus iawn ac fe fydd e’n sicrhau adloniant i’r gwylwyr i gyd.”
Aeth Sunil Patel, Prif Weithredwr Whisper, ymlaen i ddweud: "Nid wyf yn gallu meddwl am bâr gwell: Sioe Gwis eiconig Americanaidd gyda’r anfarwol Stephen Fry. Mae'n wefr llwyr cyflwyno Jeopardy! i genhedlaeth newydd o ddilynwyr cwis ITV, gyda’i thro unigryw ar y fformat cwestiwn-ac-ateb traddodiadol lle gall gwylwyr chwarae gartref.”
Mae Jeopardy! yn gynhyrchiad Whisper North ar gyfer ITV1 ac ITVX. Y cynhyrchwyr gweithredol yw Kerri Reid, Tom McLennan a Stephen Fry. Fe’i comisiynwyd gan Katie Rawcliffe, Pennaeth Adloniant ITV a Leanne Clarke, Comisiynydd Adloniant ITV.
Cynhyrchir sioe gwis wreiddiol yr UD gan Sony Pictures Television, Cwmni Adloniant Sony Pictures, a ddosberthir gan Paramount Global Content Distribution ynghyd â'r hawliau fformat.